Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl parot piws
llun llyfrau 1

Mae’r Parot Piws wedi hen sefydlu ei hunan fel cymeriad rhadlon sy’n awyddus i helpu pawb i ddysgu’r Gymraeg. Mae’r parot clyfar yma wedi dyfeisio cyfres o gemau sy’n helpu’r rhai sydd am ddysgu’r Gymraeg. Bellach mae dros bymtheg o gemau iaith hwyliog ar gael. Bwriad y gemau ydy meithrin sgiliau iaith a sgiliau meddwl yr un pryd. Mae’r gemau yn addas i chwaraewyr sydd â’r Gymraeg yn famiaith neu’n ailiaith iddyn nhw. Yn fwy na dim mae’r gemau’n cynnig cyfle i ddysgu’r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Mae’r gemau cardiau yn cynnwys Harri Hapus, Snapswn, Gair am Aur! ac Odl! Odl!. Mae Odl! Odl! er enghraifft, yn gêm sy’n cynnig cyfle i adnabod seiniau drwy odli ac sy’n gêm hynod boblogaidd. Mae’n cynnwys 96 o gardiau lliwgar a deniadol.

llun llyfrau 2Yn ogystal â’r gemau cardiau mae cyfres o gemau sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer dysgu iaith drwy chwarae gêm. Mae’r gemau hyn yn cynnwys Jig-so Croes, Bongo! Bongo!, Dwli Domin, Trio, Trio, Trio, Dyma Fo! Dyma Fe!, Pacio’r Cês, Anifeiliaid - Be Sy’n Perthyn?, Taro Deuddeg a Holi Poli! Mae’r gemau i gyd yn ymwneud â gwahanol elfennau o ddysgu iaith. Mae Taro Deuddeg, er enghraifft, yn gêm ar gyfer adnabod a defnyddio idiomau Cymraeg. Y gamp ydy paru cartŵn hwyliog gydag idiom Gymraeg. Mae bwrdd chwarae mawr yn y pecyn, gyda 36 cerdyn idiom a 36 cerdyn cartŵn / esboniad a chownteri. Mae Holi Poli, ar y llaw arall, yn gêm sy’n cynnig cyfle i holi ac ateb cwestiynau i wella sgiliau iaith, dwyn i gof a gwneud gwaith llafar. Mae yma bedwar bwrdd chwarae, 40 cerdyn cwestiwn a 40 cerdyn ateb. Llond bocs o hwyl ... a mwy!

Mae’r hen barot bellach wedi cael ail wynt ac wedi creu mwy o gemau ar gyfer dysgwyr. Un o’r gemau hynny ydy Siopa! sy’n cynnig cyfle i’r dysgwr ddysgu sut mae trin a thrafod arian yn y Gymraeg. Mae cyfle hefyd yn y gêm hon i gynilo arian a rhoi arian at achosion da.

Ydych chi am fwyta’n iach? Yna’r gêm i chi ydy Sgram sy’n gêm gardiau fydd yn eich synnu ... ac yn newid eich ffordd o fyw (ar wahân i ddysgu’r Gymraeg wrth gwrs!). Mae gemau eraill yn y gyfres yn cynnwys Janglo!. Be Wyt ti’n Wneud?, Y Gêm Werdd a Saffari! Mae’r gemau hyn yn delio â materion cyfoes e.e. gofalu am yr amgylchedd yn lleol a thu hwnt.

llun llyfrau 3

 

Gall pawb ddefnyddio’r gemau hyn i’w helpu i ddysgu’r Gymraeg – oedolion, teuluoedd a phlant. Mae dysgu’r Gymraeg gyda’r Parot Piws yn fwy o hwyl ac yn fwy cofiadwy!
Am fwy o fanylion am gemau’r Parot Piws ewch i wefan Atebol sef www.atebol.com neu mae croeso i chi ffonio swyddfa Atebol yn Aberystwyth sef 01970 832 172.

 

Glyn Saunders Jones

llinell