Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl technoleg yn y dosbarth

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi mynd ati i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth mewn sawl ffordd i helpu gyda dysgu Cymraeg. Mae’r datblygiadau wedi cynnwys datblygu cyrsiau cyfunol, adnoddau ar-lein, adnoddau'r ystafell ddosbarth yn ogystal â datblygu ac addasu prosesau mewnol a gweinyddol y Ganolfan.

Yn yr ystafell ddosbarth mae sifft sylweddol wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bolisi staff erbyn hyn bod pob tiwtor yn y Ganolfan yn defnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol pan yn dysgu mewn ystafell addas. Dros y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddiant a gweithdai i gefnogi’r polisi yma. Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd angen i diwtor gael bwrdd gwyn, teledu, peiriant fideo, peiriant DVD, peiriant CD a pheiriant tâp. Erbyn hyn does dim angen y rhain gan fod y cyfrifiadur a’r bwrdd gwyn yn gallu cyflawni popeth sydd ei angen, ac mae’r dysgwyr wedi dod i arfer â gweld clipiau fideo ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol mawr a gwrando ar ffeiliau sain mp3. Mae’r Ganolfan hefyd wedi datblygu ffeiliau bwrdd gwyn SMART a PowerPoint ar gyfer y bwrdd gwyn rhyngweithiol i ystod eang o gyrsiau.

Un o amcanion y Ganolfan yw anelu at ddefnyddio technoleg i gynorthwyo’r tiwtoriaid. Erbyn hyn mae’r holl adnoddau clywedol a chlipiau fideo wedi eu harbed ar y gyriant cyfrannol a gellir cyrchu’r adnoddau o unrhyw leoliad ble mae cysylltiad â’r we. Mae’r Ganolfan wedi buddsoddi mewn cyswllt gwe symudol trwy ddyfais 3G sydd yn golygu bod modd cael cyswllt i’r we mewn lleoliadau dysgu lle nad oes cyswllt gwe arferol a cheir banc o liniaduron a dyfeisiadau recordio sain sydd ar gael i’r tiwtoriaid eu benthyg ar unrhyw adeg. Mae pob arholiad llafar erbyn hyn yn cael ei wneud yn ddigidol sydd, yn ogystal â gwella ansawdd y ffeiliau, yn golygu bod y ffeiliau yma mewn fformat digidol ac yn barod i’w trosglwyddo ar-lein i’r arholwyr.

Mae ymateb y tiwtoriaid wedi bod yn bositif iawn gyda nifer yn mwynhau defnyddio agweddau newydd. Dywedodd Gwenllian Willis (un o diwtoriaid y Ganolfan) bod technoleg yn ychwanegu bywiogrwydd ac felly yn gwneud y wers yn fwy cyffrous i’r dysgwyr.

Mae pob dysgwyr gyda’r Ganolfan yn cael proffil cyfrifiadurol sydd yn cynnig mynediad at Amgylchedd Rhithddysgu'r Brifysgol ble mae nifer o adnoddau ar-lein atodol i’r dysgwyr gan gynnwys croeseiriau, cwisiau, ymarferion gwrando a gwylio a deall, yn ogystal â dolenni adnoddau atodol megis gwefannau 3ydd parti. Mae’r proffil hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio rhwydwaith y Brifysgol os nad oes ganddyn nhw gyfrifiadur personol, ac felly does neb yn colli’r cyfleoedd sydd ar-lein.

facebookUn enghraifft o dechnoleg a fabwysiadwyd yn ddiweddar ydy WIMBA Voice. Technoleg newydd a chyffrous yw hon sy'n gweithio o fewn yr Amgylchedd Rhithddysgu ac yn galluogi myfyrwyr a dysgwyr i recordio atebion i gwestiynau ac ymateb i diwtoriaid a dysgwyr eraill, i recordio ffeiliau sain dros y we ac ar y Bwrdd llais.  Mae’n bosib dechrau trafodaethau, cynnal sgyrsiau, ymarfer driliau a derbyn ac anfon e-byst lleisiol yn lle’n ysgrifenedig. Yr unig beth sydd ei angen ydy cysylltiad â’r we a meicroffon.

Defnyddir hefyd nifer o dechnolegau Web 2.0 gan gynnwys Facebook a Youtube: www.facebook.com/LearnWelsh, www.youtube.com/profile?user=cymraegioedolion

Defnyddir hefyd Wikis a nifer o sianeli eraill . Mae’r Wiki yn annog cyfraniadau gan y myfyrwyr ar bwnc arbennig ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cartref neu waith grŵp. Mae'r rhain i gyd yn cefnogi’r dysgu a hefyd yn boblogaidd gyda’r dysgwyr fel ffyrdd o gyfathrebu y tu allan i’r stafell ddosbarth. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio i ledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau'r Ganolfan yn ogystal â bod yn rhan o system e-farchnata y Ganolfan.

llun facebook a youtubeGyda thechnoleg yn datblygu yn barhaus mae’n hanfodol bod y Ganolfan yn datblygu i adlewyrchu disgwyliadau’r dysgwyr. Pwy a ŵyr beth fydd y technolegau a welir mewn dosbarthiadau Cymraeg ymhen 20 mlynedd?

 

Gareth Mahoney 
Swyddog TG, Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg

llinell