Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun tiwtor

 

 

 

 

 

 

Merch ifanc, brysur o Fynytho, Pen Llŷn yw Fflur Roberts sydd erbyn hyn yn Ddarlithydd Lefel A Cymraeg ac Arweinydd Academaidd Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Mae’r rhod wedi troi’n un cylch crwn oherwydd bu hithau’n fyfyrwraig yng Ngholeg Meirion Dwyfor hefyd, ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Mynytho ac Ysgol Botwnnog. Aeth ymlaen wedyn i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg a Hanes gan gwblhau gradd meistr mewn hanes yr oesoedd canol a chyfraith Hywel Dda.

 

Doedd dim cyfle i laesu dwylo oherwydd tua’r un cyfnod dechreuodd ddysgu Lefel A Cymraeg rhan amser yn ogystal â dechrau dysgu Cymraeg i oedolion. Yn ychwanegol at hynny, llwyddodd hefyd i gwblhau cwrs Ymarfer Dysgu fin nos! Yn fuan wedyn dechreuodd drefnu dosbarthiadau CiO yn ardal Dwyfor a pharhau â’i gwaith fel tiwtor. Daeth cyfle ym Medi 2010 i ddiosg y dyletswyddau trefnu ac ymgymryd â swydd llawn amser yn dysgu lefel A Cymraeg yn y coleg. Ers Chwefror 2011 mae Fflur hefyd yn rheoli darpariaeth CiO y coleg gan gydweithio’n agos â Chanolfan y Gogledd a Chanolfan y Canolbarth.

Ar hyn o bryd, mae ganddi un dosbarth ar lefel Mynediad 2 sydd yn cwrdd unwaith yr wythnos. Mae 10 o fyfyrwyr yn y dosbarth hwnnw ac mae’n amlwg ei fod yn ddosbarth hwylus iawn. Mae’r dosbarth yn ymfalchïo’n fawr yn eu hymdrechion ac yn awyddus iawn i wybod mwy ac, o ganlyniad, un o obeithion Fflur yn y dyfodol agos yw creu moodle Cymraeg i Oedolion ar gyfer y coleg fyddai’n cynnwys gweithgareddau a nodiadau ategol. Mae yna gynlluniau ar droed ganddi hefyd i gynnwys fforwm yn y moodle, a theimla y gall y dysgwyr a’r tiwtoriaid, fel ei gilydd, gael budd mawr o’r cyfle hwn i rwydweithio.  

Pan fydd ganddi funud i gael hoe fach yng nghanol prysurdeb y gwaith, mae Fflur yn mwynhau darllen, ysgrifennu’n greadigol, cerdded ac, wrth gwrs, unrhyw beth hanesyddol! Ers rhai misoedd bellach mae hi hefyd yn treulio tipyn o amser yn ailwneud hen fwthyn yn ardal Mynytho.

Mae ganddi ffordd dawel, ddidwyll sydd, mae’n amlwg, yn tynnu’r gorau o’i dysgwyr ac yn ennyn chwilfrydedd ynddynt am yr iaith ac awydd i ddysgu. Yn groes i’r arfer yn genedlaethol, mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr sydd yn ei dosbarth yn weddol ifanc ac allan o’r 10 mae yna 3 chwpl! Trefnir gweithgareddau anffurfiol yn rheolaidd ar eu cyfer a hefyd trefnir eu bod yn cymdeithasu’n gyson â dysgwyr ar lefel uwch fel eu bod yn medru gweld beth sy’n bosib iddynt hwythau hefyd ei gyflawni.     

Mae ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys darparu cyfleoedd i’w dysgwyr a thiwtoriaid trwy gydweithio â Tŷ Siamas yn Nolgellau, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r fenter iaith leol. Mae hi hefyd yn awyddus iawn i gynnig darpariaeth i fusnesau lleol,

.... yn ogystal â gorffen atgyweirio’r bwthyn bach ym Mynytho!

llinell