Morgannwg
Y Gymraeg yn sbarduno creadigrwydd
Mae arlunydd o Bont-y-clun o’r diwedd wedi neilltuo'r amser i gyflawni ei breuddwyd o ddysgu Cymraeg. Mae wedi defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hyn i sbarduno creadigrwydd yn ei gwaith celf ac, yn fwy diweddar, yn ei barddoniaeth.
Mae Gail Kennard wedi bod yn dilyn cwrs carlam yn y Gymraeg ers ei hymddeoliad bum mlynedd yn ôl, ac mae wedi ei chyfareddu gan yr iaith. Yn ôl Gail, oedd gynt yn athrawes yng Nghanolfan Technoleg Celf a Dylunio Coleg Morgannwg, Pontypridd, mae’r iaith a’i diddordeb cynyddol yn niwylliant Cymru wedi ei hysbrydoli i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer barddoniaeth a gwaith celf.
Gyda’i cherdd gyntaf yn y Gymraeg, ‘1891’, sy’n ymwneud â sut y bu i’w theulu golli’r diwylliant a’r iaith Gymraeg, anrhydeddwyd Gail â Chadair yr eisteddfod leol i Ddysgwyr yng Ngarth Olwg, ac fe’i cymeradwywyd yng Nghystadleuaeth y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala.
Cafodd ei chasgliad celf, a elwir ‘Ar Lawr Gwlad’ (From the Earth), ei arddangos yn ddiweddar yn Oriel Makers Gallery yn y Rhath, Caerdydd.
Yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr aeth Gail ati i ddysgu Cymraeg. Yn ogystal â mynychu dosbarthiadau yn y ganolfan yng Ngarth Olwg, mae Gail hefyd yn gwneud yn fawr o’r amryw weithgareddau cymdeithasol a drefnir gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys clwb crwydro, clwb darllen a chlwb cinio.
Mynychodd tri phlentyn Gail, sydd nawr yn oedolion, ysgolion Cymraeg lleol ac mae’r wyrion yn rhugl yn y Gymraeg. Mae’r gallu i sgwrsio â’r wyrion yn Gymraeg wedi bod yn ffactor bwysig i gynnal brwdfrydedd Gail wrth iddi ddysgu Cymraeg.
Meddai Gail: ‘Rwy mor ddiolchgar i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yng Ngarth Olwg am eu cefnogaeth. Mae’r staff mor frwdfrydig a chreadigol ac mae’r profiad mor ddifyr. Maen nhw wedi agor fy llygaid i bob agwedd ar ddiwylliant Cymru - nid yr iaith yn unig, ond ei llenyddiaeth a’i hanes hefyd'.
‘Rwy’n teimlo bod fy mywyd wedi cael ei gyfoethogi gymaint gan ddiwylliant a hanes Cymru’n gyffredinol, fel fy mod wedi fy ysgogi i ddarllen barddoniaeth Gymraeg gyfoes. Rwy’n gobeithio bydd fy mhrofiad i, mewn rhyw ffordd, yn annog siaradwyr a darpar siaradwyr Cymraeg i geisio’r un mwynhad â minnau trwy’r iaith.’
Meddai Helen Prosser, cyfarwyddwr Canolfan Gymraeg i Oedolion Morgannwg: 'Rydym yn falch iawn bod Gail wedi cael profiad mor bositif wrth ddysgu Cymraeg. Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith newydd, mae hyn wedi rhoi penrhyddid i’w doniau barddoni, ac wedi ysbrydoli casgliad newydd o waith celf.'
‘Mae cymaint o resymau da dros ddysgu Cymraeg.’
Meddai John Griffiths, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau, sydd yntau’n ddysgwr: ‘Mae Gail yn enghraifft o ddysgwr sydd wedi llwyr groesawu’r profiad o ddysgu. Yn ogystal â’r amrywiaeth eang o gyrsiau a ddarperir gan y chwe Chanolfan Cymraeg i Ddysgwyr ledled Cymru, mae nifer o gyfleodd i ddysgwyr i ymarfer eu Cymraeg trwy gyfres o weithgareddau dysgu anffurfiol a ariennir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r canolfannau hefyd yn gwneud ymgais ddyddiol i ysbrydoli dysgwyr i fod yn rhugl yn yr iaith.’