Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Gogledd

Cyfle i diwtoriaid y gogledd rwydweithio

llinell

llun gogledd: criw'n barod i gael gwleddMae Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd wedi sefydlu clwb ar gyfer dysgwyr yn ardal dwyrain Gwynedd er mwyn rhoi mwy o gyfleon i diwtoriaid rwydweithio a rhannu profiadau. Cynhaliwyd noson gyntaf y clwb nos Wener, 20 Tachwedd, gyda chynrychiolaeth dda o diwtoriaid yn bresennol.

Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd, ‘prif bwrpas y clwb yw sicrhau bod tiwtoriaid sydd yn gweithio ymhob twll a chornel o’r sir yn cael cyfle i gymdeithasu, rhannu profiadau a mynegi barn gyda’i gilydd yn ogystal â chyda staff y Ganolfan.’

llun gogledd: siarad wrth y bwrddYn ôl Siân Davies, tiwtor yng Ngwynedd, ‘roedd hi’n noson dda, ac yn gyfle gwych i gyfarfod tiwtoriaid a chyfnewid syniadau newydd, sydd bob amser yn handi. Byddwn yn sicr yn dod at ein gilydd eto.’

Bwriedir sefydlu clybiau ym mhob sir yn fuan, a’r bwriad yw gweld mwy o gydweithio a rhannu adnoddau ymhlith y 160 o diwtoriaid sydd yn dysgu Cymraeg i ddysgwyr y gogledd.

 

llinell