# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

pwy_lynne.jpg
Enw:
Lynne Davies

Swydd:
Swyddog Datblygu (Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent)

Ble wyt ti’n byw?
Llanisien, Caerdydd

Hoff liw?
Porffor

Hoff le?
Fy ngardd ar brynhawn heulog

Hoff fwyd a hoff ddiod?
Lasagne a gwin rosé

Hoff ffilm?
Harry Potter

Wyt ti’n bwyta brecwast bob bore?
Nac ydw – ond dw i’n gwybod dylwn i!

Hoff siop?
Siopau elusen

Hoff lyfr?
Casgliad o Gerddi TH Parry Williams; Y Llew Go Lew gan Myrddyn ap Dafydd;
Ofn fy Het gan Twm Morys; O Ran gan Mererid Hopwood.

animated-line.gif

Gofynnwyd i Mihangel Morgan lenwi holiadur rywbryd a dyma un o’i atebion:

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

Deddf yn gwahardd holiaduron sy'n gofyn Pa un yw eich hoff liw?


purpleline.jpg