# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

pwy_sarah.jpg
Enw:
Sarah Jane Meek

Swydd:
Swyddog Datblygu Cymraeg i Oedolion – Blaenau Gwent (Canolfan Gwent)

Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw yng Nghoed Duon.

Hoff liw?
Gwyrdd.

Hoff le?
Ymlacio yn y tŷ yn gwneud dim byd ar ôl y gwaith neu unrhywle poeth!

Hoff fwyd a hoff ddiod?
Siocled wrth gwrs!...ond dw i’n hoff iawn hefyd o fwyd Indiaidd yn enwedig pan dw i’n mynd i gael cyri gyda fy nosbarth yn y Balti Nite”, Crosskeys – mae bwyd ffantastig yno!

Hoff ffilm?
The Notebook” – dw i’n crio bob tro!

Wyt ti’n bwyta brecwast bob bore?
Ydw, tost neu weetabix fel arfer.

Hoff siop?
Next

Hoff lyfr?
Does dim hoff lyfr ‘da fi a dweud y gwir ond dw i’n cofio’r llyfr Cymraeg cyntaf i mi ddewis fy hunan pan o’n i yn y brifysgol – Dirgel Ddyn” gan Mihangel Morgan – a dyma fi nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg hefyd!!


purpleline.jpg