Daeth nifer fawr i ymweld â stondin Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn ystod dathliadau‘r Fari Lwyd a Gwasael Cas-Gwent a gynhaliwyd ar y 24 ain o Ionawr.
Mae’r digwyddiad yn unigryw i Gas-Gwent oherwydd daw’r Saeson i gyfarfod â’r Cymry ar ganol hen bont y dre gyda’r hwyr ac ar ôl tipyn o gellwair gwahoddir y Saeson draw i Gymru er mwyn ymuno â’r hwyl.
Mae’r Saeson yn cynnal gwasael i ddymuno Iechyd Da a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan estyn cwpanaid o seidr o gwmpas a bendithio’r goeden ‘falau tra bydd y Cymry’n mynd o gwmpas â’r Fari Lwyd i bwncio a chanu cyn cael seidr poeth a danteithion gan y tafarndai a’r amgueddfa leol.
Roedd plant Ysgol y Ffin yn canu a dawnsio yn ystod y prynhawn ac roedd digon o gyfle siarad Cymraeg yn y dre. Roedd Swyddog Datblygu Mynwy, Lloyd Jones yn barod iawn i groesawu ymholiadau ynghylch dosbarthiadau ar gyfer dysgwyr. Hefyd roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, a hybu dosbarthiadau a gweithgareddau anffurfiol Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn ardal y ffin.