Llwyddiant Cwrs
‘Hwyl i’r Teulu’
yn y Gogledd
Yn ystod 2008/09, mae Canolfan y Gogledd wedi cael cryn lwyddiant gyda chwrs newydd ‘Hwyl i’r Teulu’. Yr unigolyn sydd wedi bod yn flaenllaw iawn yn datblygu ac yn hyrwyddo’r cwrs hwn ydy Pam Evans Hughes, sy’n gweithio fel Swyddog datblygu gyda’r Ganolfan. Manteisiodd y Tiwtor ar y cyfle i gael dysgu ychydig mwy gan Pam am y cwrs.
Beth yw’r cwrs?
Yn syml iawn, Cwrs Blasu byr, oddeutu 12-15 awr a gynhelir mewn cydweithrediad â’r ysgolion a’r Awdurdodau Addysg Lleol i dargedu rhieni plant oed Meithrin, Derbyn, a Blwyddyn 1 a 2
2008/2009 – Peilota
Cafodd 2 fodel eu peilota yn Wrecsam yn gyntaf:
Model 1: Ysgolion Ail-iaith / Iaith Gyntaf
8 wythnos mewn bloc. Y nod yw treulio un awr efo’r rhieni ar eu pennau’u hunain i ddysgu’r iaith ar gyfer gweithgareddau arbennig ac yna hanner awr efo’r plant er mwyn gwneud y gweithgareddau.
Mae’r model hwn wedi cael ei dreialu hefyd mewn rhai ysgolion yn siroedd Fflint, Conwy a Dinbych. Cafwyd 110 o ddysgwyr (305 o gredydau)
Model 2: Ysgolion Cymunedau’n Gyntaf
5 i 8 wythnos. Mae’r rhieni, yr ysgol a’r tiwtor yn penderfynu pryd fydd y plant yn mynychu’r sesiynau.
Yn Wrecsam yn unig y mae’r model hwn wedi cael ei dreialu - 4 ysgol, gyda 58 o ddysgwyr (135 o gredydau )
2009/2010 - Ymestyn y prosiect
Oherwydd llwyddiant y prosiect penderfynwyd ymestyn Model 1 i 5 ysgol newydd yn Wrecsam a Model 2 i ragor o ysgolion Cymunedau yn Gyntaf yn Wrecsam ac i 3 ysgol yn Sir y Fflint
Egwyddorion Hwyl i’r Teulu:
> cwrs byr.
> yn cynnwys plant yn y sesiynau [neu yn rhan o’r cwrs].
> achredu gan RhCA.
> dim ond hyd at oed CA1 [cyfnod sylfaen] y cynigir y cyrsiau.
> cynnig dilyniant i’r brif ffrwd [hyrwyddir hyn].
Nodau Hwyl i’r Teulu
> cyflwyno iaith pob dydd ac ymadroddion defnyddiol i rieni gan ddangos sut y mae’n bosib defnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt yn y cartref.
> dysgu gemau, caneuon, storïau a gweithgareddau i’r rhieni i’w defnyddio’n bwrpasol yn y cartref gyda’u plant.
> rhoi hyder i’r rhieni ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant a hyder iddynt yn eu gallu i gefnogi addysg eu plant yn yr ysgol.
> cael hwyl wrth ddysgu.
Sylwadau rhai o’r dysgwyr:
• Great pack. Lots of fun and interesting games and activities to use at home.
• Thanks for giving me a second chance to learn Welsh with and for my child.
• I can now help my children and feel more confident with the language.
• Each week I say I’m coming to Welsh and my son responds in Welsh. He says he’s proud of me learning Welsh. Diolch.