# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

   Gwobr Tiwtor a Mentor NIACE

myfi.jpg  
Mae Myfi Brier o Goleg Llysfasi wedi ennill ‘Gwobr Tiwtor a Mentor NIACE’ am ei gwaith Llanllawen sydd yn hynod o lwyddiannus. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod llwyddiant darlithwyr a mentoriaid colegau sy’n cynrychioli’r goreuon o fewn eu proffesiwn ac sydd wedi dangos ymroddiad arbennig, y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol eu gwaith, hefo oedolion sy’n dysgu.

Cafodd Myfi ei henwebu am ei gwaith rhagorol hefo dysgwyr ar gwrs Llanllawen. Cynhyrchodd Myfi’r gyfres Llanllawen ei hun. Mae dull unigryw Llanllawen yn dysgu’r iaith Gymraeg trwy storïau ac mae’n caniatáu’r dysgwyr i ddefnyddio’r iaith lafar yn gyflym mewn sefyllfaoedd bob dydd. Yn ychwanegol i hyn, mae Myfi wedi sefydlu grŵp i’r dysgwyr, sef Clwb Llanllawen, lle caiff dysgwyr gyfle i ymarfer eu Cymraeg hefo siaradwyr rhugl yr iaith wrth fwynhau rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau tu allan i’r dosbarth. Mae’r dysgwyr wedi canmol yn gyson ei chreadigrwydd, ei brwdfrydedd a’i gofal am unigolion, ynghyd â’i hegni diddiwedd wrth gefnogi digwyddiadau allgyrsiol Clwb Llanllawen.

Llongyfarchiadau, Myfi!

purpleline.jpg