# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

pwy_nigel.jpg
Enw:
Nigel Ruddock

Swydd:
Swyddog Datblygu’r Gymraeg, Caerffili

Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw yn Y Blaenau – dim Ffestiniog ond y llall!

Hoff liw?
Fy hoff liw yw coch, fel crysau rygbi Cymru.

Hoff le?
Talp o graig wrth ymyl Traeth Mawr ym mro Morgannwg – dyna le dw i’n hoffi sychu yn yr haul ar ôl bod yn nofio yn y môr, pan gaf i’r cyfle.

Hoff fwyd a hoff ddiod?  
Dw i’n dwlu ar gyri (ond rhaid bod yn ofalus achos mae gormod o ‘ghee’ yn gallu eich gwneud chi’n dew) ac efallai glasaid o ‘lasi’ (iogwrt yfed) i gyd-fynd ag e. Dw i’n hoffi caws Caerffili hefyd, wrth gwrs!

Hoff ffilm?
‘The Silent Village’ – ffilm bropaganda a wnaed yng Nghwmgïedd yn 1943, lle mae’r athrawes yn dweud wrth y plant yn yr ysgol nad yw hi’n cael dysgu Cymraeg iddyn nhw bellach achos bod y Naziaid wedi cymryd drosodd.

Wyt ti’n bwyta brecwast bob bore?
Dw i’n bwyta powlenaid o uwd bob bore.

Hoff siop?
Dw i’n hoffi cerdded o gwmpas Harvey Nichols ond dw i ddim eisiau prynu dim byd! Dw i’n mwynhau gweld mor ofnadwy yw synnwyr ffasiwn rhai pobl, a’r holl arian maen nhw’n ei wario er mwyn cael edrych fel ’na!

Hoff lyfr?
Mwynheuais i ddarllen ‘Un Nos Ola’ Leuad’ – ond dw i’n dal heb ddeall y stori’n iawn.


purpleline.jpg