# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009
steddfod1.jpg
   Mynd o 'Steddfod i 'Steddfod...!

Dyna fu hanes dysgwyr yn ardal y Gogledd yn ddiweddar!

Ar ddydd Sadwrn Chwefror 21ain cynhaliwyd Eisteddfod Datod Tafod am y tro cyntaf erioed. Datod Tafod yw’r enw ar grŵp o ddysgwyr sydd yn cwrdd yn wythnosol yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, ac eleni bu’r grŵp yn brysur yn trefnu Eisteddfod ar gyfer dysgwyr. Roedd aelodau o grwpiau eraill - Sesiwn Sgwrsio Pwllheli a Siop Siarad Blaenau Ffestiniog a’r Cylch – wedi ymuno â Datod Tafod yn y digwyddiad cyffrous hwn. Cafwyd canu da gan y gynulleidfa gymysg o ddysgwyr ac aelodau’r gymuned, a chanwyd caneuon megis "Ble Mae Daniel?” a Sosban Fach” gyda chryn argyhoeddiad yn ystod ail ran y rhaglen.

Dywedodd Howard Jones, sydd ar hyn o bryd yn astudio Cwrs Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, "Dyma’r tro cyntaf i mi fynychu Eisteddfod ac yr oedd yn brofiad hyfryd yn ogystal â bod yn gyfle da i gyflwyno rhai o aelodau’r Grŵp i’r math yma o ddigwyddiad. Yr oedd yr achlysur yn un pleserus dros ben ac, fel canlyniad, rydym yn trefnu taith, ar gyfer Grŵp Sesiwn Sgwrsio Pwllheli, i fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala eleni.”

Yn ôl Nora Jones, trefnydd yr Eisteddfod "Mae digon o ofyn am y math yma o ddiwylliant ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg, ac rydym eisoes wedi gwneud penderfyniad i drefnu’r nesaf!”

Llai nag wythnos yn ddiweddarach cynhaliwyd Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain! Mae’r Eisteddfod hon wedi bod yn llwyddiant mawr ers blynyddoedd bellach, ac eleni, er gwaethaf y gêm rygbi (aflwyddiannus yn y diwedd), cynhaliwyd yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych, nos Wener, Chwefror 27ain. Roedd Theatr John Ambrose, Rhuthun dan ei sang o gystadleuwyr brwd a llongyfarchiadau mawr i bawb am weithio mor galed i’w gwneud yn noson lwyddiannus iawn. Braf hefyd oedd gweld yr Eisteddfod yn cael sylw ar raglen ‘Wedi 7’ gyda hanes rhai o ddysgwyr y Brifysgol a chyfweliadau hefo staff y Mentrau.

Cynhaliwyd pob math o gystadlaethau yn ystod y noson- o ddarllen Blog Cymraeg i goginio pwdin Dewi Sant ac o ganu mewn parti, yn unigol neu offeryn, i adrodd, ysgrifennu traethawd hanes neu dynnu lluniau.
steddfod2.jpg
Trefnwyd yr Eisteddfod mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Sir y Fflint, Maelor a Dinbych a braf oedd gweld bod staff y Fenter yn bresennol, yn ogystal â thiwtoriaid lu. Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd "rydan ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad a’u gwaith caled er mwyn trefnu’r noson hon, ond yn fwy na dim, i’r dysgwyr eu hunain. Fyddai’r noson ddim wedi llwyddo o gwbl heb eu hymroddiad a’u brwdfrydedd arbennig.” O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, nododd fod bwriad i sefydlu Eisteddfod y Dysgwyr yn y Gogledd Orllewin hefyd.

Llongyfarchiadau mawr i Hilary Woolner, dosbarth meistroli ar ennill y gadair eleni. Bydd Eisteddfod y Dysgwyr yn teithio o amgylch y tair sir yn eu tro, a hefyd Sir Wrecsam fydd yn croesawu’r Eisteddfod yn 2010.

Edrychwn ymlaen!

purpleline.jpg