Yn y rhifyn hwn byddwn yn edrych ar rai o uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol 2008 o safbwynt Cymraeg i Oedolion. Y cwestiwn mawr ar wefusau sawl un yw ‘Pwy yw Madison Tazu?' Cawn wybod llawer mwy amdani hi ac ambell un arall yn yr adran Newyddion.
Ydych chi wedi eich swyno gan Gaerdydd ar ôl ymweliad yr Eisteddfod â’r brifddinas eleni? O Ganolfan Mileniwm Cymru i Fenter Caerdydd, mae’r cyfleoedd a gynigir gan y lle yn ddi-ben-draw. Wedi dweud hynny, mae’r cyfleoedd a gynigir gan y Tiwtor yn ddigon anrhydeddus hefyd oherwydd mae cyfle i chi, yng nghystadleuaeth y rhifyn hwn, i ennill pâr o docynnau i weld sioe Llyfr Mawr y Plant yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Tachwedd!
Mae dylanwad y De yn dod yn fwy amlwg wrth i ni hefyd roi sylw i Gastell Coch yn y darn ‘ Golwg ar Gymru' (adran Deunydd Dysgu.) Ceir cyfle i chwilota mwy fyth yn y gorffennol yn yr erthygl ar Galan Gaeaf. Da chi, gwyliwch rhag yr Hwch Ddu Gwta!
Dydyn ni ddim wedi anghofio am anturiaethau rhai o’n tiwtoriaid! Ydych chi’n gwybod pa diwtor sydd wedi cwblhau Triathlon ac ydych chi’n ‘nabod Dewi Rhys Jones a’r tiwtor enillodd Dlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas? Heb sôn wrth gwrs am Gill Stephen yn gorfod dygymod â lludw Chaitèn.
Hefyd:
Janette Jones yn cyflwyno llwybr credydau CBAC a Carl Morris ( proffil dysgwr) yn cyflwyno ffenomenon newydd, sef Sleeveface!
A llawer, llawer mwy…
Ewch i’r adran Canolfannau i gael gwybod beth sy’n digwydd yn y chwe chanolfan iaith ac ewch i’r adran deunydd dysgu i weld pa adnoddau sydd ar gael. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.
Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Rhagfyr.
Pob hwyl!