# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

Gan Janette Jones


    Beth ydy Llwybr
    Credydau CBAC?

Cefndir
Datblygwyd Llwybr Credydau CBAC er mwyn rhoi strwythur i’r asesu anffurfiol sy’n digwydd mewn dosbarthiadau Cymraeg; mae perthynas glir, felly, rhwng y llwybr credydau ac arholiadau Defnyddio’r Gymraeg CBAC.
    Roedd llwybr credydau mynediad wedi ei achredu erbyn dechrau 2007 a chafodd ei beilota o Ionawr 2007 ymlaen yng Nghanolfan y De-orllewin. Erbyn hyn, mae’r llwybr ar gael ar lefel Mynediad a Sylfaen a bydd llwybrau Canolradd ac Uwch ar gael erbyn Medi 2009.
    Cyfres o unedau gwaith i achredu dysgu mewn dosbarthiadau Cymraeg ydy llwybr credydau CBAC; ac mae nifer penodol o gredydau wedi eu cysylltu â phob uned. Ar gyfer pob 1 credyd, cysylltir 10 awr o ddysgu, sy’n cynnwys dysgu ffurfiol yn y dosbarth, gwaith annibynnol, adolygu ac yn y blaen. Bydd pob uned 1 credyd yn cynnwys o leiaf 5 awr o ddysgu mewn dosbarth, ac unedau 2 gredyd yn cynnwys o leiaf 10 awr o ddysgu mewn dosbarth.
   Mae credyd yn gyfrwng i gydnabod dysgu llwyddiannus fesul cam bach; mae’n canolbwyntio ar beth fydd dysgwyr yn gallu ei gyflawni ar ddiwedd cyfnod dysgu h.y ‘canlyniad dysgu’. Mae gwobrwyo dysgwyr am gyflawni nifer o gredydau’n golygu eu bod yn cael cydnabyddiaeth am ddysgu rhywbeth a’u bod yn gallu mapio’u cynnydd. Mae’n cydnabod bod gwerth i bob cam yn y broses ddysgu, yn rhoi rhywbeth i ddysgwyr anelu ato ac yn rhoi cerrig milltir iddynt ar hyd y daith fel eu bod yn gallu gweld eu cynnydd. Bydd y dysgwyr yn derbyn credydau am ddangos eu bod wedi cyflawni nodau penodol. Bydd modd i ddysgwyr ennill hyd at 24 credyd ar lefel Mynediad a 24 credyd ar lefel Sylfaen.
    Mae strwythur ’run fath i lwybrau Mynediad a Sylfaen; 20 uned sydd yn y llwybr ac uned 21 ydy’r uned arholi. Asesir unedau 1-20 yn fewnol, gan y tiwtor. Asesir uned 21 yn allanol drwy arholiad. Asesir y pedwar sgìl sef siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ond mae’r pwyslais ar y sgiliau llafar. Does dim gwahaniaeth ym mha drefn y cwblheir yr unedau na’r tasgau.

    Unedau’r Llwybr Mynediad
Teitl yr uned
Cydadweithio llafar
    Ynganu a chyfarchion
    Gofyn am wybodaeth bersonol sylfaenol a’i rhoi I (person cyntaf)
    Gofyn am wybodaeth bersonol sylfaenol a’i rhoi II (3ydd person)
    Trafod diddordebau
    Trafod y tywydd
    Trafod eiddo a’r teulu
    Trafod yr amser
    Trafod y gorffennol (mynd, dod, cael)
    Trafod y gorffennol (gwneud, berfau rheolaidd)
    Trafod meddiant (rhagenwau personol)
    Mynegi rheidrwydd a rhoi gorchmynion
    Gofyn am ganiatâd a’i roi, mynegi eisiau/angen a thrafod prisiau
    Trafod pethau sydd wedi digwydd

Gwrando, darllen ac ysgrifennu
    Gwrando ar sgwrs am wybodaeth bersonol, sylfaenol
    Gwrando ar sgwrs yn y gorffennol
    Gwrando ar hysbysiadau syml

    Darllen am wybodaeth bersonol, sylfaenol
    Darllen hysbysiadau am ddigwyddiadau

    Ysgrifennu am wybodaeth bersonol, sylfaenol
    Ysgrifennu gan ddefnyddio’r gorffennol

Uned Arholi
    Arholiad DG:Mynediad
    Profion crynodol o’r uchod

    Unedau’r Llwybr Sylfaen
Teitl yr uned
Cydadweithio llafar
    Trafod digwyddiadau olynol a chyfnodau amser
    Trafod salwch a chwyno
    Mynegi barn
    Disgrifio yn y gorffennol
    Trafod beth sy’n well gan rywun a hoff neu gas bethau
    Defnyddio’r goddefol
    Gofyn cymwynas a chynnig cymorth
    Siarad am y dyfodol 1 (‘bod’)
    Siarad am y dyfodol 2 (berfau cyffredin)
    Dweud beth ddylid ei wneud
    Defnyddio’r amodol
    Cymharu pethau 1 (y radd gyfartal a’r radd gymharol)
    Cymharu pethau 2 (y radd eithaf)

Gwrando, darllen ac ysgrifennu
    Gwrando 1 [Mynegi barn a disgrifio pobl]
    Gwrando 2 [Gofyn i rywun wneud rhywbeth a thrafod cynlluniau yn y dyfodol]
    Gwrando 3 [Trafod beth fasai’n digwydd ac yn cymharu pethau neu bobl]

    Darllen 1 [Negeseuon a phortreadau byrion]
    Darllen 2 [Hysbysiadau neu ddarnau byrion er mwyn cymharu]

    Ysgrifennu 1 [Brawddegau neu gwestiynau]
    Ysgrifennu 2 [Llenwi ffurflen ac ysgrifennu neges syml]

Uned Arholi
    Arholiad DG:Sylfaen
    Profion crynodol o’r uchod

Mae arholiadau Defnyddio’r Gymraeg CBAC yn edrych yn ôl dros y gwaith a wnaed ar y llwybr ond er hynny mae’r arholiad yn ddewisol; does dim rhaid i’r dysgwyr sefyll yr arholiad os ydynt wedi dilyn y llwybr a does dim rhaid iddynt ddilyn y llwybr credydau cyn sefyll yr arholiad. Bydd pob dysgwr yn derbyn datganiad credydau ar ddiwedd y flwyddyn yn nodi’r credydau a gyflawnwyd ganddynt ond bydd rhaid iddynt gyflawni’r uned olaf i ennill cymhwyster llawn.

Y tasgau asesu
Bydd cynnydd y dysgwyr yn cael ei asesu yn y dosbarth gan y tiwtor. Bydd tasgau asesu i’w cyflawni sy’n debyg iawn i’r tasgau neu’r gweithgareddau sy’n arfer cael eu defnyddio wrth ddysgu yn y dosbarth. Bydd y tiwtor yn gwirio bod y dysgwyr yn gallu cyflawni gofynion yr uned ac yn dyfarnu credyd neu gredydau i gydnabod y gwaith dysgu. Nid oes graddau na marciau yn gysylltiedig â’r unedau mewnol. Does dim modd methu’r tasgau hyn. Bydd y tiwtor yn eu cyflwyno pan fydd y dysgwyr yn barod.

Tystiolaeth
Does dim angen cadw tystiolaeth bapur o’r tasgau llafar; y cwbl sydd angen i’r tiwtor ei wneud ydy cwblhau taflen cofnodi cyrhaeddiad ar ôl gwneud pob tasg asesu a’i chyflwyno i’r Ganolfan ar ddiwedd y flwyddyn.

Dilysu
Bydd dilyswyr mewnol ac allanol yn sicrhau bod yr asesu mewnol - asesiad y tiwtor - yn deg ac yn gywir. Yn ogystal â gwirio bod yr asesu’n digwydd yn deg ac yn gywir, bydd y dilyswyr yn rhoi adborth i’r tiwtor dosbarth a’r ganolfan ar ffurf adroddiad byr.

Y dyfodol
Rydym mewn cyfnod peilot ar hyn o bryd ac rydym angen adborth gan diwtoriaid, tiwtor drefnyddion a defnyddwyr y llwybr felly os ydych yn ymwneud â’r llwybr eleni byddwch yn derbyn ffurflen adborth gennym a byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau.
Yn y dyfodol, ychwanegir at y tasgau fel bod dewis gan y tiwtoriaid a rhoddir y tasgau ar y we er mwyn cyfleustra. Gobeithir creu rhagor o unedau Mynediad a Sylfaen er mwyn rhoi hyblygrwydd i’r tiwtor drefnyddion a’r tiwtoriaid wrth gynllunio’u rhaglenni gwaith.

dots.jpg