# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
  Dysgwr:
dysgwrpic7.gif

Cefais gyfle yn ddiweddar i fynd draw i Goleg Y Bala i gwrdd â thiwtor a dysgwr y rhifyn hwn ac fe fyddai’r lleoliad bendigedig hwnnw yn ddigon i ysbrydoli unrhywun i fynychu dosbarth Cymraeg. Ar ôl paned o goffi a darn o fara brith, does ryfedd felly fod Carol Ross yn llawn brwdfrydedd heintus. Cyhoeddodd ei bod wedi ei magu ym Mhenbedw ond ei bod yn byw ers 10 mlynedd bellach ym Mhowys, rhwng Penybont Fawr a Llangynog. Mae Martin, ei gŵr, hefyd yn dysgu Cymraeg ac mae Carol yn fwy na pharod i gyfaddef bod safon ei Gymraeg ef fymryn yn uwch na’i safon hi! Doedd neb yn y teulu yn siarad Cymraeg ond roedd ei thad wedi dysgu Cymraeg ar ôl ymddeol a symud y teulu i Gymru o Lerpwl. Mae’n amlwg bod Carol yn dilyn ôl traed ei thad ac mae’n destun balchder mawr iddi fod ei hwyres fach 8 oed, Abby, yn medru siarad Cymraeg yn rhugl ac yn mynychu ysgol gynradd Gymraeg.

Erbyn hyn, mae hi wedi hanner ymddeol o’i swydd fel athrawes ffidil a phiano sy’n rhoi gwersi mewn ysgolion cynradd yn ogystal â gwersi preifat. Dyna gyfle gwych i ymarfer ei Chymraeg, meddai, ac mae’r diddordeb mewn iaith a cherddoriaeth yn asio’n dda. Mae hi’n rhan o bedwarawd llinynnol sy’n cynnwys 2 ffidil a soddgrwth, gyda Carol yn canu’r fiola. Iddi hi, yr hwyl o gymdeithasu wrth greu cerddoriaeth sydd bwysicaf, yn ogystal â’r pleser a gâi wrth chwarae darnau gan ei hoff gyfansoddwr, Beethoven. Mae’r ddawn greadigol honno yn ymestyn ymhellach eto gan fod Carol hefyd yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth, a’r gamp yn awr yw ceisio barddoni yn Gymraeg hefyd!

Os nad oedd hynny’n ddigon, dw i’n siwr mai dyma’r dysgwraig gyntaf i mi ddod ar ei thraws sydd wedi’i hyfforddi i fod yn homeopath hefyd. Does ganddi ddim llawer o amser i weithio fel homeopath erbyn hyn, heblaw am gynghori’r teulu a ffrindiau agos, er iddi dreulio 4 blynedd yn hyfforddi yn Dudley, a hynny 15 mlynedd yn ôl. Ond mae ei diddordeb yn y cyflwr dynol yn parhau’n gwbl amlwg wrth iddi sgwrsio’n naturiol a datblygu perthynas gynnes.

Er iddi ddechrau dysgu Cymraeg nifer o flynyddoedd yn ôl, mae Carol wedi bwrw ati o ddifrif ers 4 blynedd ac wedi dilyn cwrs Wlpan. Mae hi wedi llwyddo yn yr arholiad Canolradd ac yn mwynhau’r cwrs Uwch yn fawr iawn yng Ngholeg y Bala gyda’i thiwtor, Ceri Jones. Mae’r dosbarth yn cwrdd ddwy waith yr wythnos am gyfnod o ddwy awr bob tro.

Mae hi wedi cymryd at gystadlaethau’r Eisteddfod eleni gydag awch, gan fod yr Eisteddfod honno ar stepen ei drws! O’r llefau unigol i’r ymgom – bydd dechrau Awst yn sicr yn gyfnod prysur iddi. O gofio hynny, mae ei gobeithion ar gyfer y dyfodol yn ddealladwy iawn, sef cael mwy o gydbwysedd yn ei bywyd a chael mwy o gyfle i ymlacio. Hoffai dreulio mwy o amser gyda’i theulu hefyd – hynny yw, ar ôl llwyddo yn yr arholiad Uwch!


purpleline.jpg