#
  croeso_pic.jpg
Yn y lle cyntaf, blas gogleddol sydd i’r rhifyn hwn wrth i ni gyhoeddi ein cystadleuaeth cyntaf! Mae’n agored i bawb ac mae cyfle i chi ennill penwythnos i ddau yn Nant Gwrtheyrn. Ewch i’r adran Newyddion i gael gwybod mwy! Darllenwch hanes yr hen bentref yn y darn Golwg ar Gymru ac efallai y cewch eich hunain yn wylo dros y cariadon enwog!

Hefyd yn y gogledd, beth yw cyfrinach Tarik Kaddoumi ac Angharad Gwyn?

Ceir blas rhyngwladol y tro hwn hefyd wrth i ni edrych ar brofiadau pobl yn y maes y tu allan i Gymru. O Batagonia i Basel, ac o Gaerwysg i Gaergrawnt.

Penwythnos tawel? Dilynwch gyfarwyddiadau Nic Dafis ynghylch sut i greu Digwyddiadur ac fe fydd eich bywyd cymdeithasol wedi ei drawsnewid yn llwyr!

Mae’r amser yn dechrau nawr….. brysiwch i ddarllen hanes Siôn Aled Owen sef Mastermind Cymru a thiwtor y rhifyn, a chadwch ddigon o egni ar gyfer erthygl Euros Lewis ar Bwerdai Ceredigion.

   Hefyd:
Cloncan, clebran a chlecs. Beth sy’n digwydd yn y Clwb C3 a phwy sy’n joio@morlan?

A llawer mwy…
Mae’r adran deunydd dysgu yn fwy nag erioed ac yn cynnwys adnoddau ar gyfer pob lefel yn barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

cystadleuaeth2.jpg
Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Medi.
Pob hwyl!

dots2.jpg