# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

dysgwrpic.jpg
   Dysgwr:

Pwy feddyliai y byddai ‘bore da’ a ‘sut dych chi’ yn cael eu clywed ym mhentre bach Pfäfers ger Basel yn y Swisdir? O enau Sabrina Wagner y daw’r geiriau hynny, sef myfyrwraig 22 oed sydd yn mynychu dosbarth Mynediad gyda Siôn Aled Owen.
    Ar hyn o bryd mae hi’n astudio Saesneg ac Ieithoedd Sgandinafaidd ym Mhrifysgol Basel ac wedi manteisio ar raglen efeillio’r Brifysgol i ddod draw i Brydain am flwyddyn i weithio mewn ysgol. Y gobaith yw y bydd safon ei Saesneg hi yn gwella wrth iddi hithau hybu safon Almaeneg y disgyblion yn yr ysgol. Er ei bod yn byw yn Crewe, ei dewis cyntaf oedd cael lle mewn ysgol yng Nghymru. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ieithoedd ac yn medru siarad 5 iaith yn barod. Ei hiaith gyntaf yw Almaeneg er ei bod yn medru siarad Ffrangeg yn rhugl hefyd. Mae safon ei Saesneg yn dda iawn a gall siarad Norwyeg ac Iseldireg yn gyfforddus iawn hefyd. Yn ogystal, mae hi’n benderfynol o ddysgu cymaint o Gymraeg â phosib cyn dychwelyd i’r Swisdir ddiwedd mis Mai.
dysgwrpic2.jpg

    Bu’n chwilio’n ddygn am ddosbarth Cymraeg ar ôl cyrraedd Crewe y llynedd ac o’r diwedd fe ddaeth o hyd i ddosbarth yn Wrecsam dan ofal Coleg Iâl. Mae’n debyg mai’r peth gorau am fyw yn Crewe, yn ôl Sabrina, yw bod y drafnidiaeth gyhoeddus yn wych yno ac mae hi’n dibynnu’n llwyr arni gan nad oes ganddi gar. O ganlyniad, mae hi’n medru teithio’n hwylus i Wrecsam unwaith yr wythnos i fynychu’r dosbarth Cymraeg a chael cyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.
    Mae’r ymdrech, felly, yn enfawr sydd yn rhyfeddol o ystyried mai hi yw’r unig un yn ei theulu sy’n ymddiddori mewn ieithoedd. Er eu bod yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau, nid oes gan ei rhieni na Stefan, ei brawd, fymryn o ddiddordeb! Yn fwy na dim, mae Sabrina yn mwynhau teithio a byw mewn gwledydd eraill ac erbyn hyn mae hi wedi meithrin ymwybyddiaeth dda o’r tensiynau sy’n gallu bodoli rhwng rhai ieithoedd, megis Cymraeg a Saesneg.
    Mae hi’n synhwyro bod y Gymraeg yn boblogaidd iawn dramor ac mae’n gresynu nad yw hi wedi gweld yr un poblogrwydd ym Mhrydain. Dywed fod gan bobl y Brifysgol ym Masel agwedd fwy positif o lawer tuag at y ffaith ei bod yn dysgu Cymraeg na’r bobl yn Crewe! Mae hynny’n bendant yn her i ni sy’n gweithio yn y maes.
    Mae’n cyfaddef na fydd hi’n hawdd iddi gadw cysylltiad â’r Gymraeg ar ôl dychwelyd gartre ond mae’n bwriadu gwrando’n rheolaidd ar Radio Cymru ar y we gan wneud ymholiadau ynghylch cyrsiau ar-lein. Mae ganddi gyngor pendant ar gyfer unrhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg, sef rhaid byw mewn ardal lle siaredir Cymraeg, rhaid cwblhau cwrs ffurfiol a rhaid cael cysylltiad rheolaidd â dosbarth a dysgwyr eraill.
    Y gobaith yw y bydd ei diddordeb mewn iaith yn arwain at swydd iddi ymhen ychydig flynyddoedd ac ar frig ei rhestr ar hyn o bryd y mae cyfieithu. Teimla’n ddyledus iawn i Siôn am roi arweiniad a chefnogaeth iddi. Yng ngeiriau Sabrina, wrth ddychwelyd gartre bydd ganddi atgofion melys iawn o Gymru: byd natur godidog, Mastermind o diwtor, tywydd ofnadwy ac iaith hyfryd! Mae’n hynod o ddiolchgar ei bod wedi cael cyfle i gael blas ar yr iaith ac yn edrych ymlaen at greu poced o siaradwyr Cymraeg ymhlith ei ffrindiau ym Masel!

dots.jpg