Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newyddion Gwent

Llongyfarchiadau

dysgwr2006_StuartImm.jpgLlwyddodd Stuart Imm, Tiwtor Cymraeg i Oedolion Gwent, yn Arholiad Urdd Ieithydd Gorsedd y Beirdd, ac o ganlyniad mae'n aelod o'r Urdd Las. Felly, gellir ei weld yn cerdded o gwmpas maes yr Eisteddfod eleni yng Nglyn Ebwy ym mis Awst yn ei wisg las hyfryd! Cofiwch ofyn iddo fe am ei lofnod!

 

 

llinell

Pedwar yn cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn

CIMG2466.JPG Ddydd Sadwrn 8 Mai, cynhaliwyd rownd derfynol yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2010. Ar ôl cystadlu brwd, cyhoeddwyd enwau’r ymgeisydd a fydd yn cymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Ewch i’r adran Newyddion i ddarllen mwy amdanynt.

 

 

 

llinell

Y Tlysau

Rhan allweddol o’r gystadleuaeth wrth gwrs yw’r ddefod o gyflwyno tlws arbennig i’r enillydd. Angelina Hall, sy’n gweithio mewn gwydr, sy’n gyfrifol am gynllunio’r paneli gwydr hardd a gyflwynir yn yr Eisteddfod eleni. Yn ogystal â’r paneli ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, mae Angelina hefyd wedi creu tlws arbennig ar gyfer enillydd cystadleuaeth y Tlws Rhyddiaith eleni. Cyflwynir y Tlws hwn er cof am Elen Rhys, a fu farw yn Hydref 2009, un a fu’n gweithio’n ddiflino am flynyddoedd lawer i hybu defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.

Wrth ystyried y brîff ar gyfer dylunio paneli cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, roedd arwyddocâd treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol yr ardal yn hollbwysig: y cyfeiriad hanesyddol at y gwaith dur oedd yn gymaint o ran o’r dref, ynghyd â’r teimlad o adfywio, bwrlwm a gobaith.  Bu Angelina yn gweithio gyda delweddau penodol: tai teras y Cymoedd, clwb gweithwyr, simneiau a’r gwaith dur - gan ddod â nhw at ei gilydd mewn un panel. Mae’r tri phanel llai i gyd yn portreadu rhan o banel yr enillydd gan sicrhau bod pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn mynd â rhan o banel yr enillydd adre.

Mae pob un o’r pedwar panel yn cynnwys llinell o gerdd Robat Powell sydd wedi’i hysgythru ar y gwydr.  Roedd Angelina am i hyn fod yn gynnil iawn, gan ymddangos o dan fathau penodol o oleuni yn unig, er mwyn iddo gael ei ‘ddarganfod’ wrth ichi weld y panel o safleoedd penodol.

Yn olaf, dewisodd Angelina Hall ffrâm fetelig pan gafodd y paneli eu fframio er mwyn amlygu mor bwysig oedd y diwydiant dur i’r ardal.

Rhaid oedd cadw at ystyriaethau dylunio gwahanol iawn gyda phanel y Tlws Rhyddiaith. Roedd angen dylunio panel hynod o bersonol a fyddai’n cario ystyr arwyddocaol i deulu Elen Rhys, ond a fyddai hefyd yn ddarn deniadol i’w hongian ar wal y buddugwr. Cafodd Angelina gymorth aruthrol gan Euryn Ogwen Williams a phartner Elen, Eryl Rowlands, a roddodd fanylion am ddigwyddiadau arwyddocaol ym mywyd Elen iddi.

tlysau

Taith Gerdded gyda Iolo Williams

Er mwyn dathlu Wythnos Addysg Oedolion, aeth 72 o bobl o bob lefel ac oedran (gan gynnwys plant bach) ar daith ddwyieithog o gwmpas “Silent Valley” ger Cwm gyda’r arbenigwr ei hun, Iolo Williams!
Cwrddon ni yn y maes parcio am 3.30yp. Roedd yr haul yn disgleirio ac roedd pawb yn barod ac yn awyddus i ddechrau ar y daith hir o’u blaenau!

Wrth i ni grwydro o gwmpas, stopiodd Iolo i siarad am y planhigion a’r blodau hyfryd yno. Clywon ni lawer o adar gwahanol a dangoswyd amrywiaeth o bryfed i ni. Roedd y plant wrth eu boddau, yn enwedig pan oedd e’n siarad am y cachgi bwm a madfall y dŵr!

Parodd y daith am 3 awr bron. Roedd Iolo yn siarad am lawer o bethau diddorol yn ogystal â rhannu ei straeon doniol gyda ni am ei helyntion cyffrous.

Roedd pawb yn flinedig ac yn boeth iawn erbyn y diwedd ond doedd neb yn cwyno. Cawson ni brynhawn gwych a dyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y tro nesa!

taith gerdded

llinell