Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

Dwy Eisteddfod lwyddiannus yn y Gogledd


Am y tro cyntaf yn hanes Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd, cynhaliwyd dwy Eisteddfod i’r Dysgwyr ym mis Ebrill a mis Mai eleni. Hoffem ddiolch o galon i bawb a fu’n rhan o’r Eisteddfodau - o’r cystadlu i’r trefnu ac i’r help a gafwyd ar y noson.

llinell

Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain

Yr oedd Clwb y Gweithwyr yng Ngwersyllt ger Wrecsam dan ei sang nos Wener, Ebrill 23ain, gyda degau o ddysgwyr a thiwtoriaid brwd wedi dod i gefnogi ei gilydd ar gyfer Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain.

dysgwr y gogleddYn y gorffennol, darparwyr Cymraeg i oedolion a mentrau iaith yr ardal sydd wedi bod yn trefnu’r Eisteddfod, ond eleni y Ganolfan oedd yn gyfrifol am y gwaith pennaf hwnnw.

Hyd yn oed cyn y noson fawr roedd cyfanswm o 93 o ddysgwyr wedi cystadlu yn yr adran gwaith cartref a 7 o’r rheiny wedi ysgrifennu cerdd dan y thema ‘Adfywiad’ ar gyfer gwobr y Gadair.

Cafwyd nifer fawr yn ymgeisio ymhob cystadleuaeth o dan arweiniad hwyliog Siôn Aled a chafwyd beirniadaethau teg gan Aled Lewis Evans (beirniad llenyddiaeth a llefaru); Craig Owen Jones (beirniad cerdd a thlws Dafydd ap Llywelyn) a Helen Pritchard Jones (beirniad Celf a Chrefft a gwaith llaw).
Enillydd y gadair eleni oedd Chris Ryder o Abergele,  llongyfarchiadau mawr iddi hi, a phob hwyl gyda’r gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010.

Edrychwn ymlaen rŵan at Eisteddfod y Dysgwyr 2011, fydd yn dod i Sir y Fflint.

llinell

dysgwye gogledd orllewinEisteddfod Dysgwyr y Gogledd Orllewin

Ar nos Wener, Mai 21ain, roedd dysgwyr ardal y gogledd orllewin yn hogi eu harfau i baratoi at Eisteddfod y dysgwyr yn Neuadd Hendre, Tal y Bont ger Bangor. Dyma’r tro cyntaf i Eisteddfod gael ei threfnu yn ardaloedd Gwynedd, Môn a Chonwy.

Roedd oddeutu 200 o ddysgwyr yn bresennol, yr awyrgylch yn wych, a phawb wedi cyffroi yn llwyr.

Cafwyd wyth cystadleuaeth ar y llwyfan oedd yn amrywio o gystadlaethau unigol i gyflwyno stori ddoniol a sgets. I goroni’r cyfan cafwyd 12 parti canu a 10 parti adrodd ar ddiwedd y noson!

enillwyr y parti canuRoedd arweiniad y ‘Steddfod dan ofal cywrain Mr Elwyn Hughes a Ms Jina Gwyrfai, a beirniaid y noson oedd Craig Owen Jones (Cerddoriaeth) ac Ifan Prys (Llefaru ac adloniant).

 

Enillwyr y parti canu-
Dynion Bangor, dan
arweiniad Elwyn Hughes.

llinell