Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun enillwyr


Gareth Thomas,
Dysgwr Cymraeg i
Oedolion y Flwyddyn, a

Bethan Evans,
Tiwtor Cymraeg i
Oedolion y Flwyddyn
Sir Gaerfyrddin 2009/10.

 

Cynhaliwyd Noson Wobrwyo Dysgwyr a Thiwtoriaid Addysg Oedolion Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli nos Wener, 18 Mehefin ar gyfer holl ddysgwyr a thiwtoriaid y sir ac yn rhan o’r noson oedd gwobrau Tiwtor a Dysgwr Cymraeg i Oedolion.

Enillodd Gareth Thomas y wobr ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn a nododd yr enwebydd ar y ffurflen enwebu fod ei lwyddiant a’i agwedd at ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill. Mae Gareth yn mynychu Cwrs Canolradd sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe yn Llanelli ac mae ei ymroddiad i’w uchelgais o fod yn rhugl yn amlwg gan ei fod braidd wedi colli gwers ers iddo ddechrau dysgu Cymraeg, a heb golli un wers ers Medi 2009. Mae e’n darllen llyfrau i ddysgwyr yn awchus ac wedi darllen pob llyfr mae’r tiwtor wedi ei gynnig i’r dosbarth. Mae e wedi gwrando ar gyngor ei diwtor ac wedi peidio â chyfieithu pob gair wrth ddarllen ac mae hyn wedi cyfrannu at ei lwyddiant a’i bleser wrth ddarllen llyfrau Cymraeg. Mae e hefyd yn cyfrannu’n wythnosol at flog y dosbarth.

Yn y dosbarth, mae e’n tynnu coes pawb (gan gynnwys y tiwtor) ac erbyn hyn mae’r dysgwyr eraill yn ei alw’n “Gareth drwg” ac mae hyn yn dangos pa mor boblogaidd yw Gareth gyda’r dysgwyr eraill. Mae e’n gwneud hwyl o’i hunan ac yn cadw’r dosbarth i fynd wrth iddyn nhw frwydro i ddysgu patrwm neu eirfa anodd. Wrth wneud hyn mae e’n sicrhau bod hyd yn oed aelodau gwanaf y dosbarth yn barod i wneud ymdrech ym mhob gweithgaredd yn y dosbarth.

Enillodd Bethan Evans wobr Tiwtor y Flwyddyn, a chafodd ei henwebu gan lawer o’r dysgwyr yn ei dosbarthiadau. Mae Bethan yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion i Brifysgol Abertawe ers tua 15 mlynedd. Mae’r cyfraddau cadw dysgwyr ar ei chyrsiau yn uchel iawn gan ei bod hi’n cadw mewn cysylltiad cyson gyda nhw. Mae hi’n sicrhau bod pob dysgwr sy’n colli gwers yn derbyn y gwaith a gollwyd a’r gwaith cartref cyn y wers nesaf ac yn cynnig sesiynau ychwanegol i’r dysgwyr sy’n colli cwpwl o sesiynau. Mae hyn wedi sicrhau bod y dysgwyr yn cael y gorau o’i chyrsiau ac yn llwyddo arnyn nhw. Mae Bethan yn diwtor gwych ac yn gweithio’n galed yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr i ddefnyddio’u Cymraeg tu fas i’r dosbarthiadau. Mae hi’n ysbrydoli dysgwyr i barhau gyda’u dysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Llongyfarchiadau i Gareth a Bethan ar eu llwyddiant!

 

llinell