Bydd dau becyn o adnoddau Cymraeg i Oedolion ar gael yn ystod 2008 i gefnogi dau o atyniadau Amgueddfa Cymru. Ailagorwyd Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre yn 2004 yn dilyn gwaith ailddatblygu helaeth ar yr hen ffatri wlân, ac mae’n darparu cyfle i ddysgu am hanes a diwylliant lleol yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Atyniad newydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yw Oriel 1 sy’n ddefnyddio gwrthrychau, ffotograffau, ffilm, celf a straeon personol i archwilio thema ‘Perthyn’ ac ystyr Cymreictod.
Wrth adeiladu ar lwyddiant pecynnau ‘Llwybrau Llafar Sain Ffagan’ a ‘Camau Cymraeg Llanberis’, bydd y ddau becyn newydd o adnoddau print a fideo yn darparu canllawiau a gweithgareddau i’w defnyddio wrth baratoi ar gyfer ymweliad â’r amgueddfeydd ac yn ystod neu yn dilyn ymweliadau.
Yn ogystal â’r rhain, bydd ail becyn o gardiau fflach yn cael ei gyhoeddi gan CBAC yn ystod 2008. Bydd y pecyn yn dilyn yr un patrwm â’r pecyn cyntaf - 100 o gardiau A4 lliw llawn, CD-ROM o’r lluniau ar ffurf PDF a llyfryn gweithgareddau i diwtoriaid. Tra bod y pecyn cyntaf wedi ei anelu yn bennaf at lefelau Mynediad a Sylfaen, bydd y pecyn hwn wedi ei anelu at ddysgwyr hyd at lefel Canolradd.