Mae Menter Iaith Ceredigion, dan adain y Cyngor Sir, yn bodoli ers wyth mlynedd bellach. Lleolir Swyddfa Cered ar gampws Theatr Felin-fach, ac erbyn hyn mae 4 aelod o staff llawn amser, ac un rhan amser yn gweithredu prosiectau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Ceredigion.
Mae rhaglen waith CERED yn cynnwys prosiectau o fewn 6 thema waith:
- Pobl yn eu cymunedau
- Ymchwil
- Plant a Phobl Ifanc
- Busnesau a Mentrau Gwirfoddol
- Hamdden, chwaraeon a’r celfyddydau
- Gwasanaethau cefnogol
Mae gweithgarwch CERED yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr i gael mynediad i ddiwylliant a bywyd Cymraeg Ceredigion. Er enghraifft:
cArdiCWSTIG: cylchdaith adloniant ysgafn Cymraeg ar draws Ceredigion, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd gwledig.
Mae’r nosweithiau yn profi’n hynod boblogaidd mewn lleoliadau ar draws y Sir, ac mae rhai o artistiaid amlycaf Cymru wedi ymddangos yn y nosweithiau yma erbyn hyn, gan gynnwys Tecwyn Ifan, Heather Jones, Steve Eaves, Huw Chiswell, Gwyneth Glyn a Ryland Teifi.
Bydd rhaglen o nosweithiau cArdicWSTIG yn cael eu trefnu eto ar gyfer 2008 gyda manylion llawn ar ein gwefan.
Pwerdai Ceredigion: prosiect hir dymor sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Cered a Theatr Felin-fach mewn 4ardal yng Ngheredigion. Cyfle i ffocysu ar faterion diwylliannol, cymdeithasol a chreadigol wedi eu seilio ar ddiwylliant cynhenid ardaloedd cefn gwlad Ceredigion. Mewn partneriaeth â’r cymdogaethau, y gobaith yw datblygu strategaethau cynaliadwy ar gyfer materion cymunedol a diwylliannol lleol. Cynhelir gweithgareddau megis Gŵyl y Cyfarwydd yn ardaloedd Y Pwerdai, gyda chefnogaeth arbennig ar gyfer dysgwyr i gael profi’r diwylliant Cymraeg.
Cer’ed Ceredigion:
Yn 2007, cynhaliwyd nifer o deithiau cerdded mewn gwahanol ardaloedd yng Ngheredigion, ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu’r prosiect yma yn 2008. Y nod yw hyrwyddo iaith, diwylliant, treftadaeth ac etifeddiaeth Ceredigion drwy weithgareddau cerdded, ac mae’r teithiau yn profi’n hynod boblogaidd. Ymunodd 70 o gerddwyr mewn taith gerdded arbennig a drefnwyd mewn partneriaeth â’r Papur Bro lleol, Llais Aeron yn ystod haf llynedd, ac mae teithiau hefyd wedi eu cynnal yn ardaloedd Llanwenog, Bronant, Rhydypennau ac Aberystwyth. Mwy o deithiau i ddod yn 2008!
Mae gwybodaeth ar bob agwedd o waith CERED i’w gweld ar y wefan www.cered.org neu mae croeso i chi gysylltu â Dilwyn Jones, Swyddog Datblygu CERED ar 01545 572350 neu drwy e-bost: cered@ceredigion.gov.uk