# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
#
Sefydlu dosbarth dysgu Cymraeg i’r teulu yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth


Wedi i’r ysgol fod yn llwyddiannus i gael grant o £5000.00 o bunnau gan ‘Cymunedau yn Gyntaf’ gofynnwyd i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, sydd â’i phencadlys yn Aberystwyth, am arweiniad gyda sefydlu dosbarth i rieni allu dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Roedd Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr ysgol wedi sefydlu ‘Fforwm Iaith’, â’r aelodau yn unigolion o blith y llywodraethwyr, y rhieni a’r staff. Un o’r pethau a wnaethant hwy oedd mynd ati i geisio am arian i sefydlu Dosbarth Cymraeg i Rieni.

Cam 1: trafod opsiynau
Aethpwyd i gyfarfod prifathro’r ysgol a chynrychiolydd o’r pwyllgor rhieni.
Penderfynwyd cynnig dau ddosbarth a thalu i’r Ganolfan ddarparu’r ddau ddosbarth hyn. Gellid cael 15 gwers i mewn cyn diwedd y flwyddyn ysgol.
Cam 2: taflen i hysbysu rhieni
Lluniwyd taflen i hysbysu rhieni ac aelodau eraill o’r teulu am y dosbarthiadau arfaethedig ac yn eu gwahodd i nodi’r disgrifiad oedd yn eu disgrifio hwy orau, e.e.
A. Dw i’n ddechreuwr pur / I’m a complete beginner
B. Mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn elfennol iawn / My knowledge of Welsh is very elementary
C. Gwnes i Gymraeg TGAU ond dw i ddim yn rhugl o gwbl / I did GCSE Welsh but am not at all fluent
CH. Dw i’n gallu siarad Cymraeg ond mae fy ngwybodaeth o ramadeg a geirfa’n gyfyngedig / I can speak Welsh but my knowledge of grammar and vocabulary is limited.