Cam 3: mynychu cyfarfod rhieni ac asesu lefel y rhai â diddordeb
Trefnwyd bod dwy ohonom o staff y Ganolfan yn ymweld â chyfarfod i rieni a’u plant a drefnwyd ar ôl yr ysgol. Gosodwyd stondin yno yn hysbysebu’r dosbarthiadau newydd ac yn gwahodd y rhai oedd â diddordeb i ddod i gael sgwrs â ni os oeddent yn ansicr pa ddosbarth fyddai orau iddynt. Y maen prawf gennym ni oedd p’un a oedd y darpar ddysgwyr yn gallu ymdopi â sgwrsio â ni yn Gymraeg ai peidio. Os oeddent yn gallu yna byddent yn mynychu’r dosbarth i ddysgwyr mwy profiadol, a’r lleill yn mynychu’r dosbarth i ddechreuwyr.
Cam 4: penderfynu ar gwrs
Penderfynwyd defnyddio Cwrs Mynediad newydd CBAC â’r dechreuwyr, a’r llyfr Canolradd newydd â’r lleill. Roedd yr ysgol yn barod i brynu gwerslyfr yr un i bob dysgwr, ynghyd â llyfr ymarferion a set o gryno ddisgiau neu gasetiau’r cwrs.
Cam 5: amseru dosbarth ar adeg pan ddaw rhieni at yr ysgol, a darparu gofal plant
Cychwynnwyd ar y dosbarthiadau wedi’r hanner tymor ym mis Chwefror 2007. Roeddent yn cychwyn am 3.30, wrth bod y plant yn gorffen eu diwrnod ysgol. Roedd gofal plant wedi ei drefnu gan yr ysgol i blant y rhieni tra oeddent yn cael eu gwersi. Cynorthwywyr yn yr ysgol oedd yn darparu’r gofal i’r plant, ac roedd yr arian i dalu iddynt yn dod o’r grant a dderbyniwyd. Pendefynwyd bod awr a hanner o ddosbarth yn hen ddigon, yn arbennig o ystyried hyd y diwrnod yn yr ysgol i’r plant.
Parhau heb grant, ac ymestyn
Yr oedd digon am barhau i ni allu cynnal dau ddosbarth hyfyw wedi gwyliau’r haf. Y tro hwn, fodd bynnag, nid oedd grant gan yr ysgol, ac felly fe’i cynhaliwyd fel dosbarth cyffredin a’r aelodau yn talu’r ffi arferol am ddosbarth. Dychwelodd y selogion i gyd. Dim ond ychydig nad oeddent wedi ymroi o ddifrif, a beidiodd â dychwelyd oherwydd nad oeddent am dalu am y gwersi. Cafodd ddwy fam fabanod newydd, ac er ceisio dod â babi i’r dosbarth, ei chael yn anodd i gael heddwch i ddysgu.
Penderfynwyd mai, yn ymarferol, y peth gorau iddynt am y tro fyddai ailgydio ynddi pan fyddai’r babanod yn hŷn. Collwyd aelod arall o’r dosbarth gan iddi gael damwain a olygai triniaeth estynedig.
Mae’r aelodau’n dymuno i’r dosbarthiadau barhau yn ystod tymor newydd y gwanwyn, er y bydd yn rhaid iddynt dalu ffi eto am eu cyfres o wersi yn y tymor newydd. Yn ogystal â’r ddau ddosbarth a fydd yn parhau mae dosbarth newydd i ddechreuwyr pur wedi ei hysbsebu ar gyfer y tymor newydd hwn. Bydd y tri dosbarth yn agored i’r cyhoedd, ond dim ond i blant sydd yn mynychu Ysgol Gymraeg Aberystwyth y gellir cynnig gofal plant. Erbyn hyn yr enw a ddefnyddir ar gyfer y dosbarthiadau yw ‘Dosbarthiadau Cymraeg i’r Teulu’.