# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Filniws
Filniws yn yr eira, Tachwedd 2007
Cyfarfod ALTE

Cynhaliwyd cyfarfod chwemisol ALTE ym mis Tachwedd 2007 yn Filniws, prifddinas Lithwania. Mae’r cyfarfod yn symud o le i le, a dyma’r tro cyntaf i’r cyfarfod gael ei gynnal yn un o’r gwledydd Baltig.

Lithwania yw’r fwyaf o’r tair gwlad, a’r wlad lle mae’r iaith frodorol mewn sefyllfa gref. Yr Adran Astudiaethau Lithwaneg oedd yn rhoi llety i’r gynhadledd a chafwyd darlithiau ar gefndir yr iaith Lithwaneg. Mae hi’n iaith sy’n perthyn i’r teulu Indo-Ewropeaidd, ac mae mwyafrif trigolion y wlad yn ei siarad, er bod grwpiau ieithyddol ac ethnig eraill o fewn ffiniau’r wladwriaeth. Mae hi’n wlad Babyddol, a mwy o eglwysi i’w gweld yn Filniws na dim arall.

Diddorol oedd clywed am y gwaith a wneir i hybu’r Lithwaneg i fewnfudwyr. Dyna waith yr adran ym mhrifysgol Filniws - dysgu oedolion, boed yn fewnfudwyr neu’n ddinasyddion sydd ond yn siarad Pwyleg, Rwsieg neu iaith arall. Dangoswyd gwefan project a luniwyd ar y cyd i ddysgu Lithwaneg i oedolion a rhoi tipyn o gefndir diwylliannol i gefnogi’r dysgu: http://www.oneness.vu.lt/lt

Roedd yr ystadegau am nifer y siaradwyr, y canrannau sy’n siarad ieithoedd eraill neu’n perthyn i grwpiau ethnig yn ddiddorol iawn ac yn adlewyrchu hanes cythryblus y wlad. Dim ond 3 miliwn a hanner yw poblogaeth y wlad, ac 83% o’r rheiny’n siarad Lithwaneg yn iaith gyntaf. Fel gyda chynifer o wledydd Ewrop a Dwyrain Ewrop, roedd dyn yn cael yr argraff fod mwyafrif helaeth y bobl yn siarad Saesneg yn eithaf rhugl, gan fod dysgu Saesneg yn orfodol o oed cynnar iawn.

Gan ddilyn esiampl cynhadledd Caerdydd yn Nhachwedd 2005, rhoddwyd gwers enghreifftiol fer hefyd i ddysgu rhai ymadroddion syml, e.e. ‘Labas rytas’ (Bore da) a ‘Kalp js kalbate? - A kalbu velsietikai’ (Sut dych chi’n siarad? Dw i’n siarad Cymraeg!). Un o’r ymadroddion mwyaf cofiadwy oedd y gair am ‘Diolch’ sef ‘Ai’ neu ‘Atshww’ yn union fel pe bai rhywun yn tisian!

Rhennir cyfarfod ALTE yn dridiau. Mae’r ddau ddiwrnod cyntaf i aelodau ALTE yn unig, ac yn trafod amrywiaeth o themâu. Wedi’r cyflwyniadau gan bwysigion y brifysgol a’r darlithiau am sefyllfa’r Lithwaneg a’r arholiadau Lithwaneg i oedolion, roedd dewis o weithdai.

Eglwys Gadeiriol Filniws
Eglwys Gadeiriol Filniws


Gweithdy

Y gweithdy cyntaf oedd eiddo Neil Jones (Cambridge ESOL) a fu’n trafod dull o gymharu enghreifftiau ysgrifenedig o waith ymgeiswyr ar draws ieithoedd. Roedd yn trafod y posibilrwydd o flaenori (‘ranking’) enghreifftiau a chymharu hynny â chanlyniadau marcio analytig. Hynny yw, rhannwyd pawb yn grwpiau i drafod enghreifftiau o waith ymgeiswyr Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg ar lefel isel, gan roi trefn arnyn nhw, heb yn wybod beth oedd y meini prawf asesu. (gw. Lyle Bachman, Statistical Analyses for Language Assessment CUP). Roedd Neil yn awgrymu projectau bychain y gellir eu cyflawni’n cymharu barn tiwtoriaid am flaenori enghreifftiau a’r asesiadau go iawn, a bod cymharu tasgau (a gwaith ymgeiswyr, neu’r allbwn) ar draws ieithoedd yn gallu creu argraffiadau gwahanol iawn. Er enghraifft, os oedd yr asesydd ei hun yn wan yn yr iaith honno, roedd yn tueddu i weld gwaith yr ymgeiswyr mewn ffordd wahanol iawn i bobl oedd yn rhugl yn yr iaith darged. Mae’n debyg fod rhai gwledydd yn defnyddio aseswyr sydd ddim yn rhugl yn yr iaith darged - yr unig beth a asesir wedyn yw’r cyfathrebu, gan fod aseswyr felly’n anwybyddu gwallau a’r problemau gramadegol sy’n dân ar groen yr aseswyr rhugl.

Y gweithdy arall oedd aelodau o grŵp Cod Ymarfer ALTE’n trafod yr awdit.