Nic Dafis
Pontgarreg
Ceredigion
Fuoch chi ‘rioed yn ‘blogio?’
Wel, do…, do fe?
Nid yw gŵr y ‘morfablog’ yn ddieithr i chi, felly. Dyma hefyd sylfaenydd maes-e, sef fforwm cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cyfle i chi fod yn rhan o gymuned ar-lein ac i gyfrannu at drafodaethau anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Nic hefyd yn diwtor profiadol iawn. Daw yn wreiddiol o’r Waun ar y gororau ac aeth i’r coleg ym Mhontypridd. Bu’n byw yng Nghaerdydd ac yn y fan honno cafodd yr ysbrydoliaeth i ddechrau dysgu Cymraeg ei hunan trwy fynychu dosbarth Wlpan ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1994. Mae’n debyg ei fod wedi treulio oriau yn ymarfer ei sgiliau newydd wrth weithio yn siop lyfrau Oriel yn y brifddinas!
Ym 1997 symudodd i Langrannog lle cyfarfu â Philippa,a oedd eisoes yn diwtor profiadol sydd wedi symbylu nifer o oedolion i ddysgu Cymraeg erbyn hyn. Mae’r ddau bellach yn byw ym Mhontgarreg, sef tafliad carreg o Langrannog. Cafodd Nic brofiad o drochi go iawn oherwydd ers y cychwyn cyntaf dim ond Cymraeg y mae ef a Philippa yn siarad â’i gilydd er mai dysgwraig o Fryste yw hithau hefyd. Gydag amser, datblygodd yntau i fedru camu i’r byd yr ochr draw i’r ddesg drwy ddechrau rhannu dosbarth o ddechreuwyr gyda Philippa. Ers sawl blwyddyn bellach mae’n gyfrifol am ddosbarthiadau dwys cyfan gan ddysgu cyrsiau Wlpan dan ofal Prifysgol Aberystwyth a hefyd, am y tro cyntaf eleni, dan ofal Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae ganddo bum grŵp o ddysgwyr gyda thri ohonynt yn cwrdd yn ystod y dydd am bedair awr yr un, a dau yn y nos. Mae’n
amlwg ei fod yn cael boddhad mawr o fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion a dywed mai un ffordd o fesur llwyddiant ei ddosbarthiadau yw pan mae’r dysgwyr yn dechrau siarad Cymraeg yn well na’r tiwtor!
Ynghyd â bod yn diwtor byrlymus, mae ein dyled yn fawr i’r gŵr o’r Waun am iddo hefyd sefydlu maes-e. Ar un lefel, mae’n amlwg bod y ddau beth yn mynd law yn llaw. Dysgu Cymraeg i oedolion ac yna darparu cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith mewn modd anffurfiol. Yn fwriadol, nid oes blog na chategori ar gyfer dysgwyr yn benodol ar faes-e oherwydd y nod yw caniatâu i bawb gyfrannu a chymdeithasu’n naturiol heb roi label ar neb. Rhydd Nic lawer o bwyslais hefyd ar rôl maes-e fel cyfrwng i ddefnyddio iaith y stryd ac i herio’r sefydliad drwy fod yn agored ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’n amlwg bod yr athroniaeth hon wedi taro deuddeg oherwydd ar ôl dechrau gyda dim ond deg aelod yn 2002 mae’r belen eira hon erbyn hyn yn cynnwys dros 3,000 o aelodau.
Ar ôl sicrhau llwyddiant maes-e, bydd Nic yn ymddeol fel rheolwr y safle yn ystod y misoedd nesaf. Gyda chymaint o gynlluniau eraill yn mynd â’i amser, bydd Nic yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i ddwylo diogel Hedd Gwynfor gan obeithio y bydd pawb yn parhau i flogio
O ddyn sy’n gyfarwydd â manteisio’n llawn ar holl bosibiliadau’r we,
nid yw’n syndod i glywed mai un o’i ddiddordebau yw chwarae pocyr ar-lein. Mae ef hefyd yn mwynhau darllen barddoniaeth a cherdded.
Mater arall yw pryd mae’n cael yr amser i wneud hynny…