# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Awgrymiadau ynglyn â mynd ati i sefydlu dosbarth Cymraeg i Rieni


Pethau i’w hystyried cyn dechrau
1. Faint o ddarpar fyfyrwyr sydd?

Byddai tua 15 mewn un dosbarth yn ddigon

2. Beth yw lefel Cymraeg y darpar fyfyrwyr?

Mae’n bosib y byddai eisiau dosbarth i ddechreuwyr, un arall i rai â hyfedredd cymhedrol yn yr iaith, ac un arall i rai sydd ar lefel uwch ond heb hyder i siarad

3. Hyd y dosbarth, a pha mor aml y byddai’n cyfarfod?

Mae’n bwysig bod gan unigolion ddisgwyliadau realistig, i osgoi siom ac i bobl ddeall pa fath o ymrwymiad sydd ei angen i ddysgu iaith.
Cymer 240 o oriau i gwblhau Cwrs Sylfaenol cyflawn.

4. Oes angen meithrinfa arnoch?

Mae cynnal dosbarth am fwy nag awr a thri chwarter yn golygu glynu wrth lawer mwy o reolau yn ymwneud â gofal y plant

5. Ydy’r rhieni yn deisyfu dosbarth sydd yn rhoi’r math o iaith maen nhw ei hangen i fedru siarad â’u plant a’u helpu â’u gwaith ysgol?

#
Mae cryn wahaniaeth rhwng y ffordd y bydd rhywun yn siarad â phlentyn 3 oed a phlentyn 11 oed. Mae gwahanol gyrsiau yn bodoli i’w hystyried.



Gwerslyfrau

Byddai’n rhatach pe bai pob rhiant yn talu am ei (g)werslyfr ei hun.

Wedi ystyried yr uchod tybed a fyddai modd rhoi rhieni mewn grwpiau i’w dysgu?

Os mai dim ond un grŵp sydd, byddai’n fuddiol penderfynu ar flaenoriaethau.