Ym mis Tachwedd 2007 daeth dros 170 o diwtoriaid i’r Brifddinas i’r ail gynhadledd genedlaethol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Prif nod y gynhadledd oedd rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes, a rhoi cyfle i diwtoriaid dderbyn hyfforddiant ar rai themâu allweddol, ac i ddod ynghyd i rannu profiadau.
Mae hi’n dipyn o gamp gwybod pa siaradwyr i’w gwahodd ond, yn lwcus, eleni cafwyd nifer o syniadau yn sgil yr adborth i gynhadledd 2006. Roeddem yn ffodus iawn, felly, bod yr Athro Paul Meara wedi cytuno i siarad ar y prynhawn cyntaf, gan fod ei arbenigedd mewn caffael geirfa ail iaith yn berthnasol i’r holl diwtoriaid oedd yn bresennol. Roedd cyflwyniad Dr Christine Jones fore dydd Sadwrn hefyd yn fuddiol, a chafodd pawb gyfle i glywed am y cwrs ar-lein sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Llanbedr Pont Steffan, a gweld enghreifftiau o’r modiwlau. Mae e-ddysgu yn faes newydd i nifer o diwtoriaid, ac yn thema sydd angen ei datblygu yn genedlaethol er mwyn gallu denu dysgwyr nad ydynt bob amser yn gallu mynychu dosbarthiadau rheolaidd.
Wrth drefnu’r gweithdai, y nod oedd sicrhau bod digon o amrywiaeth a bod pob gweithdy yn cynnig syniadau newydd i’r tiwtoriaid eu defnyddio yn y dosbarth. Penderfynwyd gwahodd siaradwyr i gyflwyno gweithdai ar rai o’r prif themâu y mae Llywodraeth y Cynulliad
am eu datblygu ymhellach megis ymchwil, Cymraeg i Rieni, adnoddau dysgu ac addysgu, dysgu anffurfiol a methodolegau dysgu amgen. Cafwyd hefyd gyflwyniadau defnyddiol iawn am ddulliau addysgu yng Ngwlad y Basg, a gweithdy arbennig yn cyflwyno syniadau newydd am weithgareddau i’w defnyddio yn y dosbarth.
Eleni hefyd penderfynwyd gwahodd siaradwr i’r swper nos, ac roedd yn bleser cael croesawu Cennard Davies sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ym maes addysgu Cymraeg i Oedolion. Cafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddo yn olrhain rhai o’i brofiadau ef yn y maes dros y blynyddoedd.
Roedd y gynhadledd yn llwyddiannus dros ben, a dymuna Llywodraeth y Cynulliad ddiolch i bawb a gyfrannodd.
Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau cenedlaethol yn y dyfodol, anfonwch neges at Awen Penri. Y cyfeiriad e-bost yw: tiwtor@cymraegioedolion.org
Awen Penri