# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
#


Deunydd gweledol llawn hiwmor ar gyfer dysgwyr!

Beth am roi gwaith cartref i’ch dosbarthiadau o ddysgwyr? – gwylio rhaglen deledu CNEX!

Cwmni ifanc yw Dinamo sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu a datblygu cyfresi animeiddio 2D a 3D ac effeithiau arbennig ar gyfer teledu a ffilm. Mae’r gwaith yn cynnwys rhaglenni animeiddio ar gyfer pob oedran, o oedran cyn-ysgol, oedran plant ysgol ac oedolion.

Sefydlwyd Dinamo yn 2004 gan gyfarwyddwyr animeiddio Cymraeg, sef Aron Rhys Evans ac Owen Stickler. Mae tîm o animeiddwyr ifanc, sydd wedi’u hyfforddi mewn colegau yng Nghymru, yn gweithio gyda nhw. Mae stiwdio Dinamo wedi’i leoli ym Mae Caerdydd.



#

Un o gyfresi mwyaf llwyddiannus y cwmni yw Cnex, sef cyfres animeiddiedig dychanol a gynhyrchwyd ar gyfer S4C. Mae tair cyfres wedi’u darlledu, ac enillodd y gyfres gyntaf sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Adloniant Orau Gŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2004 a Cyfres Orau Adloniant Ysgafn BAFTA Cymru 2004.

#

Mae nifer o gymeriadau adnabyddus fel Dai Jones a Rhodri Morgan yn ymddangos yn y dair gyfres, yn ogystal â chymeriadau newydd, gan gynnwys y pishyn mewn trwsus byr, Iolo Williams, a’r athrawes Gymraeg fyd eang, Nia Parry.

Cwm Teg yw’r gyfres boblogaidd i blant oedran cyn-ysgol ar gyfer Planed Plant Bach. Cyfres o hwiangerddi wedi’u hanimeiddio yw Cwm Teg, a chawn gyfle i gwrdd â rhai o gymeriadau Cwm Teg, sef Gwen a Gareth a’u ffrindiau yn yr ysgol feithrin.