Mudiadau lleol yw’r Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer, ac yn adlewyrchu awydd pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith. Mae’r Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith.
Cewch wybodaeth am ba ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog sydd ar gael yn eich hardal chi yma www.mentrau-iaith.com.
Bellach mae yna rwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru, ac mae’n debygol iawn fod Menter yn eich hardal chi.
Mae eich Menter Iaith leol yn cynnig cyngor neu gymorth ymarferol i chi, a hynny’n aml yn rhad ac am ddim. Mae pob Menter yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan ddibynnu ar yr anghenion lleol, megis -
Cyngor
- i rieni newydd ynglŷn â magu eu plant yn ddwyieithog
- i gyrff cyhoeddus a gwirfoddol ynghylch cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg
- i fusnesau sydd am ddechrau cynnig gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid
- ynghylch Addysg Gymraeg i blant
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn Ionawr 1991. Erbyn 1998 roedd pum Menter yn bodoli sef Cwm Gwendraeth, Aman Tawe, Taf Elai, Maldwyn a Môn. Ar sail llwyddiant y Mentrau cynnar, bu galw am fentrau tebyg mewn ardaloedd eraill ledled Cymru.
Yn ystod y cyfnod yma roedd rhai Mentrau yn cynorthwyo i sefydlu Mentrau eraill, yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau yn anffurfiol rhwng staff y Mentrau.
Roedd rhai Mentrau yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg drwy gynnig sylwadau ar ymgynghoriadau cyhoeddus.
Sefydlwyd Mentrau Iaith Cymru gan y Mentrau Iaith lleol gan fod angen cydgyfarfod yn rheolaidd a rhoi enw a phroffil i’r Mentrau Iaith gyda’i gilydd fel un mudiad.
Gweithgareddau
cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg
cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth
cyfieithu darnau byr neu eich cyfeirio at gyfieithwyr
gweithio mewn partneriaeth â mudiadau lleol er mwyn cynnig gweithgareddau cymunedol.