# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Gwyliau Cymraeg

Prosiect i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiant twristiaeth.

Mae’n cynnig gwybodaeth ynghylch llefydd i aros a bwyta a chael gwasanaeth Cymraeg yn ogystal, ac atyniadau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd. Mae’n brosiect sydd yn ddelfrydol i ddysgwyr ac ymwelwyr sydd eisiau profiadau Cymraeg tra ar eu gwyliau. Gwybodaeth bellach: www.gwyliaucymraeg.co.uk

Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2

Mae’r prosiect yma wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn nawr, gyda bandiau ifanc yn cael cyfle i gystadlu yn erbyn eraill yn lleol. Os yn fuddugol, byddant wedyn yn cystadlu ar lefel ranbarthol a chael y cyfle i gystadlu yn y rownd derfynol gan gynnwys recordio cân mewn stiwdio. Yna, bydd y cyhoedd yn pleidleisio ar gyfer eu hoff fandiau a bydd beirniaid profiadol hefyd yn rhoi eu barn ar y gerddoriaeth.

#

Mae’r band buddugol yn ennill gwobrau lu gan gynnwys ymddangos ar raglen Bandit, chwarae ym Maes B yn yr Eisteddfod, cael gigiau gan Fentrau Iaith Cymru a chymryd rhan yn nhaith Bandit/C2. Gwybodaeth bellach: www.mentrau-iaith.com; www.bbc.co.uk/c2

Menter Patagonia

Mae’r prosiect hwn yn dechrau ym Mhatagonia yn 2008. Mae Mentrau Iaith Cymru yn cyflogi dau aelod o staff i weithio yn y Wladfa i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.


Cynllun Cyfnewid Ieuenctid

Bwriad y cynllun hwn yw galluogi mwy o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ifanc 16-25 oed feithrin dealltwriaeth, derbyn profiadau newydd ac addysgol, a chreu rhwydweithiau newydd gyda’u cyfoedion ar draws Cymru drwy gyfrwng teithiau cyfnewid, chwaraeon a diwylliant.

Bydd y prosiect yn weithredol ledled Cymru trwy rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Bydd yn gyfle i’r Mentrau Iaith lleol ddatblygu tîm o bobl ifanc i fynychu’r gweithgareddau.

Mae Mentrau Iaith Cymru yn datblygu prosiectau cenedlaethol amrywiol ac mae gweithgareddau lu gan y Mentrau Iaith lleol, yn cynnwys hyfforddiant awyr agored, gwersi ieithoedd Ewrop drwy’r Gymraeg, sesiynau sgwrs, clybiau cymdeithasol a chwaraeon i blant ac oedolion. Gweler www.mentrau-iaith.com am ddolen i’ch Menter Iaith leol a gwybodaeth am weithgareddau.