Newyddion Canolfan
Cymraeg i Oedolion
Morgannwg
Cwrs Arbrofol
Soniwyd yn y rhifyn diwethaf am y bwriad i gynnal cwrs dros dair wythnos ym mis Awst i helpu pobl i fynd o Fynediad 1 yn syth at Sylfaen 1. Mae’n braf gallu dweud i’r cwrs ddenu 12 o ddysgwyr sydd yn cwrdd yng Ngholeg Pen-coed bob dydd rhwng 9.30am a 3pm. Gwerthusir effeithlonrwydd y cwrs ac os bydd y canlyniadau’n llwyddiannus, byddwn yn ystyried cynnal rhagor o gyrsiau ar wahanol lefelau yn ystod haf 2009. Mae’r math hwn o gwrs yn dangos bod y Canolfannau o ddifrif am gynorthwyo pobl i symud yn gynt trwy’r llwybr dilyniant, hyd yn oed os na allant fynychu cyrsiau dwys trwy gydol y flwyddyn.
Staff newydd
Bu nifer o newidiadau staffio dros yr haf. Symudodd Janette Jones i CBAC fel Swyddog Achredu a braf yw gallu croesawu Rhian James a fydd yn gweithio fel Swyddog Datblygu Ardal a hefyd Annalie Price, Swyddog Datblygu Ardal, fydd yn gofalu am y gweithle. Mae Catherine Williams wedi’i phenodi yn Gyd-gysylltydd Cymraeg i Oedolion o fewn Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.
Llwyddiant yn yr Eisteddfod
Llongyfarchiadau i Gôr Gartholwg a enillodd y gystadleuaeth i gôr neu grŵp canu ar gyfer dysgwyr yn Eisteddfod Caerdydd. Mae Shân Morgan, Swyddog Dysgu Anffurfiol y Ganolfan a chyfeilydd y côr, a Maldwyn Pate, arweinydd y côr, hefyd yn y llun.
Llongyfarchiadau hefyd i Jenny Henn sy’n dysgu ym Merthyr – nid yn unig am gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn, ond am ennill y tlws rhyddiaith yn ogystal.