Newyddion Canolfan
Cymraeg i Oedolion
Caerdydd a Bro Morgannwg
Ers i Gareth Mahoney gael ei benodi yn Swyddog T.G y ganolfan, ei fwriad yw ceisio gwella pob agwedd ar T.G o fewn y ganolfan, i gynnwys popeth o e-ddysgu hyd at y prosesau gweinyddol. Felly, y cam naturiol nesaf fyddai manteisio ar dechnoleg i hwyluso’r drefn o dalu am gyrsiau a dyna’n union beth a wnaed yn ddiweddar iawn yn y ganolfan hon. Erbyn hyn mae pobl yn gyfarwydd iawn â phrynu pethau dros y we, gan gynnwys dillad, gwyliau, ceir, a nawr mae hi hefyd yn bosib prynu cyrsiau Cymraeg.
Lansiwyd y system Talu ar-lein gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ym mis Medi 2008 (yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn addysgol newydd). Mae’r system yn golygu bod modd i bobl ddewis cwrs, gan gofrestru a thalu ar-lein. Bwriad y prosiect yw gwneud y broses o ymuno â dosbarth mor hawdd â phosib i’r dysgwyr, a chyflymu’r holl broses hefyd.
Gallwch glicio ar y ddolen isod er mwyn cael cipolwg ar y system.
Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer cyrsiau sydd yn cael eu darparu gan y Ganolfan y gellir defnyddio’r system. Wrth gyflymu’r broses o gofrestru a thalu, gellir dechrau’n gynt ar y gwaith dysgu a mwynhau.
Mae’r Ganolfan newydd ddechrau cyd-weithio â Gorsaf Radio Red Dragon yng Nghaerdydd er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gymraeg i oedolion. Cynigir ymadrodd newydd bob dydd fel modd o hybu adnoddau iaith unigolion ac fel modd o brofi chwilfrydedd pobl i fynd ati i ddarganfod mwy am ddosbarthiadau dysgu Cymraeg.
Ewch i wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Eisiau gloywi eich Cymraeg?
Cofrestrwch ar gwrs Gloywi’r Gweithle yng Nghaerdydd!
(ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl...)
Opsiwn 1) 29/9/08 – 15/6/09: Llun 17:30 – 19:30
Opsiwn 2) 3/10/08 – 19/6/09: Gwener 9:30 – 11:30
£160 yn unig!
Cofrestrwch heddiw i sicrhau eich lle!
Gallwn hefyd gynnal gwersi ar bob lefel yn eich gweithle.
Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy...
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg:
029 2087 4710