Pryd dechreuoch chi’r cwrs hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion?
Ar gwrs penwythnos fis Chwefror 2008, yng Ngwesty’r Bryn Howel yn Llangollen.
Pam roeddech chi wedi penderfynu bod yn diwtor?
Adnabod ffrindiau oedd eisoes yn dysgu Cymraeg i oedolion, ac yn credu y byddai dysgu’r Gymraeg i eraill yn her ac yn hwyl.
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
‘Stwnsho’, ‘Rwdlan’ a ‘Hiraeth’
Pa fwyd rydych chi’n hoff o’i goginio?
Cinio dydd Sul
Eich hoff win?
Unrhyw Rioja
Beth sydd ar eich ipod yr wythnos hon?
Duffy
Beth rydych chi’n ei gael i frecwast?
Grawnffrwyth a Fruit and Fibre
Pe byddech chi’n cael cwrdd ag unrhyw un, yn fyw neu farw, pwy fyddai’r person hwnnw a pham?
1. Owain Glyndŵr - Ar ôl ysgrifennu sioe am Owain Glyndŵr, byddai’n ddifyr cael gweld sut foi oedd o go iawn.
2. Gwneuthurwyr y rhaglen ‘Lost’ – i gael rhywfaint o atebion (dwi ar goll!)
3. Simon Cowell – er mwyn ei wahodd i Eisteddfod yr Urdd, iddo gael gweld beth ydi talent!
Beth sy’n codi ofn arnoch chi?
Mynd yn hen.
Ydych chi’n poeni am yr amgylchedd?
Llawer mwy yn ddiweddar.
Y gwyliau gorau a gawsoch erioed?
Mis mêl yn Dubai a Mauritius y llynedd. Dubai yn eithriadol o foethus, a’r tywydd yn anhygoel, a chael ymlacio wedyn ar draethau Mauritius – nefoedd!
Pe byddech chi’n cael dewis byw yn y gorffennol, pa gyfnod fyddai hynny a pham?
Yn y chwedegau – gan fod y cyfnod yn swnio fel lot o hwyl, y dillad yn wych, a chwyldro’r Gymraeg yn berwi.
Eich hoff le yng Nghymru?
Dyffryn Clwyd
Eich hoff ddarn o farddoniaeth?
‘Hon’ gan T.H. Parry-Williams
"Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.”
Fyddech chi’n hoffi dysgu iaith arall?
Mi fyddwn yn hoffi bod yn rhugl mewn Ffrangeg – mae gen i dipyn bach o eirfa, ond fedra i ddim rhoi’r geiriau mewn brawddeg gall chwaith!
Pwy oedd arwr eich plentyndod?
Jeifin Jenkins
Pwy neu beth sy’n eich gwneud yn flin?
Rhieni sy’n medru’r Gymraeg yn siarad Saesneg gyda’u plant.
A thocynnau parcio.
Rygbi neu bêl-droed?
Rygbi.