# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

   E-Ddysgu yng Nghanolfan
   Cymraeg i Oedolion Gwent
Mae gweithwyr o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn gobeithio ymestyn y defnydd a wneir o e-ddysgu yn y ddarpariaeth a gynigir gan y ganolfan.
gwent.jpg  
Cafodd aelodau o staff y Ganolfan gyfle i fynychu diwrnod hyfforddiant a drefnwyd gan APADGOS yng Nghaerdydd. Dysgodd Jacqui Spiller, Catrin Thomas, Glenda Brown, Nigel Ruddock a Steffan Webb lawer yn ystod y diwrnod a gynhaliwyd yng Ngwesty Mecure Holland House.
    Roedd y sesiynau yn cynnwys cyflwyniad i e-ddysgu, adolygiad o’r cwrs cyfunol a gynigir gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, adolygu’r adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael yn ogystal â gweithdai i ystyried sut y gellir datblygu’r ddarpariaeth ymhellach.
    Yn ôl Steffan Webb, roedd yn ddiwrnod da iawn. "Roedd y deunydd yn bendant yn eich ysgogi ac mae hynny’n cynnig her i’r ganolfan a’r holl diwtoriaid i groesawu technolegau newydd wrth ddysgu a pharatoi.
    Mae grwpiau bychain o diwtoriaid eisoes wedi cael hyfforddiant ar gyfer defnyddio byrddau gwyn rhyngweithiol ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn yn gallu ehangu’n darpariaeth yn y dyfodol i gynnwys mwy o fyrddau gwyn rhyngweithiol a chyfleusterau labordai iaith.”
    Os oes gan diwtoriaid Cymraeg i Oedolion gyfleusterau yn eu hystafelloedd ar hyn o bryd nad ydynt yn gallu eu defnyddio, byddwn yn ddiolchgar pe baent yn cysylltu â mi yn syth ar 01495 333735.

Steffan Webb
Rheolwr Hyfforddiant
digwydd2.jpg

   Newyddion da i Ganolfan
   Cymraeg i Oedolion Gwent
Ym mis Gorffennaf 2008, fel rhan o Wobrau Dathlu Rhagoriaeth Coleg Gwent enillodd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent Wobr y Prifathro 2008.
 gwent2.jpg  
Enillwyd y wobr hon gan y ganolfan am fod yr adran orau yn y coleg am ganlyniadau achredu a pherfformiad cyffredinol yn ystod 2007/08.
Llongyfarchiadau mawr iawn i’r ganolfan a’r staff am eu llwyddiant, sy’n profi unwaith yn rhagor fod y maes Cymraeg i Oedolion yn mynd o nerth i nerth.


iidigwydd3.jpg