# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

dysgwyr.jpg

Dysgwyr yn paratoi

paned ym Maes D!


Llwyddiant, llwyddiant a mwy o lwyddiant – dyna fu hanes dysgwyr y Gymraeg o’r De Orllewin yn yr Eisteddfod eleni. Roedd Maes D yn llawn bwrlwm a channoedd o ddysgwyr yn mynd a dod drwy’r dydd.
    Ond mater o falchder oedd gweld dysgwyr o’n hardal ni yn dod i’r brig nifer o weithiau yn ystod yr wythnos. Bu Kevin Sullivan a Megan Heighway yn paratoi’n drwyadl am amser i gystadlu yn y gystadleuaeth llefaru i ddysgwyr, ac fe adroddodd y ddau yn wych ar y diwrnod, gan roi perfformiadau ardderchog o ‘Twf’ gan Cyril Jones. A braf yw medru dweud bod Kevin, er mai dim ond un mis ar ddeg sydd ers iddo gychwyn dysgu, wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth, a hynny yn y pafiliwn pinc ei hun. Roedd Helen Evans, hithau o Sir Benfro, yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.
A thrannoeth, roedd mwy i ddod. Bu côr dysgwyr o ardaloedd Llanelli, Treforus ac Abertawe yn ymarfer canu ‘Cofio dy wyneb’ am fisoedd, a hyfryd yw medru cyhoeddi iddynt ddod yn ail yn y gystadleuaeth grŵp canu. Ond na, nid dyma’r diwedd.Yn dilyn y llwyddiant hwn, fe ddaeth tri grŵp o Abertawe yn gyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth ‘darllen deialog’. Llongyfarchiadau mawr i Kevin Sullivan a Rebecca Thomas am ddod yn gyntaf, Virginia Madoc a Matthew Walters am ddod yn ail, a Pam Muir a Megan Heighway am ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth hon; a phob un ohonynt yn dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad yn Nhŷ Tawe.
    Llongyfarchiadau hefyd i John Kempton Parry o Sgeti wnaeth ennill cystadleuaeth darn o ryddiaith ar lefel Mynediad.

Ymlaen yn awr am y Bala!


iidigwydd3.jpg