# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
   Newyddion Canolfan
   Cymraeg i Oedolion
   Canolbarth Cymru
cwrs.jpg
      Cwrs Hyfforddi Tiwtoriaid
Cynhaliwyd cwrs hyfforddi tiwtoriaid ar 27-29 Mehefin eleni. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddatblygu a rhannu syniadau.


      Cwrs Haf 2008
Cynhaliwyd Cwrs Haf llwyddiannus iawn eleni gyda 70 o bobl o Orllewin Awstralia, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Gwlad Pwyl, America, Canada, yr Alban, Lloegr a Chymru yn cofrestru i fynychu’r cwrs yn Aberystwyth.
    Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn y niferoedd eleni ac mae’r tuedd hwn i’w weld hefyd yn ein dosbarthiadau Cymraeg wythnosol yng Nghanolbarth Cymru.
    Roedd rhai o’r dysgwyr yn dychwelyd am yr ail flwyddyn neu fwy er mwyn cwrdd eto â ffrindiau a wnaed ar y cwrs yn y gorffennol. Gwelwyd hefyd pobl oedd wedi cofrestru’n wreiddiol am bythefnos yn unig, yn penderfynu aros am y mis cyfan am eu bod yn mwynhau eu hunain gymaint!

Diarmuid Johnson a Ceri Rhys Mathews

yn diddanu dysgwyr Cwrs Haf Aberystwyth

.cwrs2.jpg

    Bu’r dysgwyr yn brysur iawn gyda dysgu ffurfiol yn ystod y dydd a rhaglen lawn o weithgareddau gyda’r nos oedd yn cynnwys taith i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, nosweithiau cerddorol gyda Diarmuid Johnson a Ceri Mathews, gweithdy dawns a drama gyda Zoe Pettinger, cyflwyniad gan Bethan Gwanas, cyngerdd gyda Chantorion Aberystwyth, a noson gyda Rhiain Bebb.


Mae’r lluniau gan Jaci Taylor yn dangos dysgwyr ar Gwrs Haf Aberystwyth yn mwynhau’r gweithgareddau gyda’r nos.
cwrs3.jpg

Ceri o Ganada,

Bethan Gwanas

a Zoe Pettinger



iidigwydd3.jpg