Dych chi’n dysgu Cymraeg i Oedolion?
Dych chi’n chwilio am hyfforddiant a chymhwyster?
Hoffech chi ddysgu Cymraeg i Oedolion ac yn chwilio am gymhwyster?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dymuno i bob tiwtor ennill cymhwyster addysgu o fewn pedair blynedd i’w ddyddiad dechrau yn y swydd.
Bydd cymhwyster Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion yn cael ei gynnig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Cynhelir y cwrs rhwng 6pm a 9pm bob nos Iau yng Nghanolfan Gymunedol Rivermead, Tŷ Du (Rogerstone), Casnewydd, o’r 06/11/08 hyd at 02/04/09 sef 18 sesiwn i gyd. Bydd o leiaf un cwrs dydd Sadwrn i’w drefnu yn y Gwanwyn yn cwblhau cyfanswm o 60 awr o sesiynau hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd ail flwyddyn y cwrs yn debyg i’r flwyddyn gyntaf.
Rhaid i bob myfyriwr ar y cwrs hefyd ddysgu dosbarth wythnosol, a gwneud ambell i sesiwn arall, er mwyn cwblhau 75 awr o ymarfer dysgu yn ystod dwy flynedd y cwrs.
Gellid bwrw ymlaen i gwblhau TAR (PGCE) ar ddiwedd y cyfnod a gellir cynnwys yr oriau a’r gwaith a gwblheir o fewn y cwrs yma fel cyfraniad at hynny.
Bydd y cwrs yn:
- werth 60 credyd
- rhan amser
- cynnwys ymarfer dysgu
- eich cymhwyso chi i ddysgu Cymraeg i Oedolion
- rhoi’r cyfle i chi fynd ymlaen i wneud TAR
- gofyn i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig
Er mwyn gwneud cais am le ar y cwrs hwn mae angen llenwi’r ffurflen gais briodol a’i dychwelyd at:-
Steffan Webb, Rheolwr Hyfforddiant,
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent,
Coleg Yr Hill, Pen y Pound, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 7RP
01495 333735