# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
gogledd_1.jpg
       Americanes wyth ar hugain oed sy’n
       hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion.
Tra ‘roedd Meggan Lloyd Prys yn astudio Addysg ar gyfer ei gradd M.A ym Mhrifysgol Rio Grande Ohio yn 2005, fe gyfarfu â Chymro o bentref Rhiwlas ger Bangor. Yr oedd Cynog Prys yno ar ôl iddo ennill ysgoloriaeth i wneud yr un cwrs M.A ac i hybu’r diwylliant Cymraeg yn Ohio. Blwyddyn yn ddiweddarach, fe ofynnodd Cynog y cwestiwn mawr ac fe hedfanodd Meggan i Gymru ar yr 21ain o Fehefin, 2006. A chyn iddi gael cyfle i ddad-bacio ac ymlacio ar ôl y daith hir dros fôr yr Iwerydd, aeth Meggan yn syth i gofrestru ar gyfer cwrs haf i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Priodwyd y ddau yr haf hwnnw.
    Erbyn hyn, mae Meggan yn rhugl yn y Gymraeg ac yn derbyn hyfforddiant gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ym Mangor i ddod yn diwtor Cymraeg. Dewch i adnabod yr Americanes sydd wedi cyflawni cymaint dros y ddwy flynedd diwethaf...

       Pum munud yng nghwmni….. Meggan Lloyd Prys

Pryd y gwnaethoch gychwyn dysgu Cymraeg?
Ysgol Haf 2006 ym Mangor, y diwrnod ar ôl i mi symud i Gymru o America! Roeddwn i’n priodi yn Gymraeg ymhen pythefnos!

Pam y gwnaethoch benderfynu mynychu’r cwrs?
Roeddwn i eisiau medru siarad efo fy ngŵr a’i deulu yn Gymraeg, a do’n i ddim isio iddyn nhw orfod troi at y Saesneg pan o’n i yn bresennol.

Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Sgwarnog! Roedd un o fy nhiwtoriaid yn arfer dweud mod i’n ‘dilyn sgwarnog’ pan oeddwn i’n mynd i siarad oddi ar y pwnc dan sylw.

Eich hoff fwyd?
Frickadilly, bwyd yn cynnwys meatballs, reis a saws madarch (rysait teuluol!)

Y tro diwethaf i chi ddweud celwydd?
Mi dd’wedais wrth fy ngŵr nad oeddwn i’n cael hwyl yn yr haul, er mod i’n ymlacio’n braf mewn pwll yn Ohio, am ei fod o’n gorfod gweithio yn ôl yng Nghymru!

Eich hoff win?
Barolo, gwin coch o’r Eidal.

Beth sydd ar eich ipod yr wythnos hon?
Canu Gwlad Americanaidd (dydy fy ngŵr ddim yn hoff ohono o gwbl!) a Cowbois Rhos Botwnnog.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n euog?
Heddiw, gan fy mod i yn dal i fod ar fy ngwyliau yn America a fy ngŵr wedi gorfod mynd yn ôl i’r glaw yng Nghymru ers dydd Mawrth.

Petaech yn cael cyfarfod unrhyw un boed fyw neu farw, pwy fuasai’r unigolyn hwnnw a pham?
Mi faswn i’n hoffi cael paned o de efo Ghandi.

Beth sydd yn codi ofn arnoch?
Pryfed cop.

Ydych chi’n amgylcheddol gydwybodol?
Dwi’n trio bod, ond mae’n anodd peidio â hedfan pan mae fy nheulu yn byw yn America!

Y gwyliau gorau erioed - lle a pham?
Ooo...Yr Eidal, ar ôl graddio o’r coleg. Roeddwn i efo fy ffrindiau gorau yn y byd ac mi gawson ni gymaint o hwyl.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi roi cwtsh i rywun?
Nos Lun.

Pe gallech deithio yn ôl i’r gorffennol, pa gyfnod y buasech yn ei ddewis? Pam?
Mi fyddai’n well gen i fynd ymlaen i’r dyfodol.

Eich hoff le yng Nghymru?
Ynys Llanddwyn.

A hoffech ddysgu iaith arall?
Mi faswn i’n licio dysgu Eidaleg.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Pan wnes i weld fy chwaer, sy’n ddwy ar bymtheg oed, yn crio yn ystod angladd ei chariad.

Pwy oedd eich arwr pan oeddech yn blentyn?
Fy Modryb Beth.

Beth, neu pwy, sydd yn eich gwylltio?
Gwylio George Bush yn siarad.

Y tro diwethaf i chi chwerthin?
Tua pum munud yn ôl.

Y tro diwethaf i chi weiddi ar y teledu?
Dw i ddim fel arfer yn gweiddi, ond mi wnes weiddi wrth wylio Fox News yn ddiweddar.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddweud ‘dw i’n dy garu’ wrth rywun?
Heddiw, pan oeddwn i’n siarad efo fy ngŵr ar y ffôn.

dots.jpg

       Eisiau bod yn rhan o ddatblygiadau cyffrous
       newydd ym maes Cymraeg i Oedolion?

       Awydd ymuno â thîm o diwtoriaid yng ngogledd Cymru?

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn chwilio am –
    - diwtoriaid profiadol a all ddysgu ar unrhyw lefel
    - diwtoriaid newydd sy’n dymuno dechrau dysgu

Dyma gyfle gwych i gyfrannu at y broses o gynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Dim ond ymgeiswyr o’r safon uchaf fydd yn cael eu hystyried a bydd ymgeiswyr llwyddiannus sy’n newydd i’r maes yn derbyn hyfforddiant yn rhad ac am ddim.

Rhagor o fanylion:
Ceri Llwyd: c.llwyd@bangor.ac.uk / 01248 383928

iidigwydd3.jpg