Lynn Williams
Byw yng Nghymru a gallu siarad Cymraeg yw’r fformiwla berffaith i’r cyfrifydd a’r cyfarwyddwr ariannol Lynn Williams.
Yn 51 oed, mae Lynn, sy’n wreiddiol o Gastell Nedd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd a hanner. Ar hyn o bryd mae’n astudio cwrs Uwch Lefel 2 yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dechreuodd Lynn ddysgu Cymraeg oherwydd y rhwystredigaeth a deimlai o fethu deall iaith ei famwlad. Roedd e eisiau deall mwy am ddiwylliant Cymru a gallu defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Mae Lynn yn defnyddio amryw o dechnegau i loywi ei sgiliau siarad Cymraeg e.e. trwy fynd ar deithiau i ardaloedd yng ngogledd Cymru lle mae’r Gymraeg yn amlwg iawn yn eu bywyd bob dydd, a gwrando ar sianeli radio a theledu Cymraeg.
"Dw i’n gobeithio siarad Cymraeg yn rhugl erbyn y diwedd, gan swnio fel pe bawn i’n siaradwr naturiol, iaith gyntaf,” meddai Lynn.
Michiko Kino
Mae Michiko Kino, sy’n dod o Japan, wedi cyflawni uchelgais yr haf hwn drwy ddysgu siarad Cymraeg ar y cwrs WLPAN wyth wythnos dan ofal canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Bellach ar ei hymddeoliad, mae’r gyn-athrawes, sy’n byw ger Osaka, wedi ei hudo gan yr iaith byth ers iddi ddarllen ‘The Grey King’ gan Susan Cooper, nofel Saesneg wedi ei seilio yng Nghymru, yn ôl yn y 1970au.
Mae’r llyfr yn adrodd hanes bachgen sy’n symud i Gymru ac mae’n cynnwys delweddau o chwedlau Cymreig hynafol a llawer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg.
Mae Michiko’n aelod o gymdeithas Gymraeg yn Japan o’r enw Kansai (Gorllewinol). Mae’r grŵp yn cwrdd yn y dafarn unwaith y mis i siarad am y diwylliant a’r iaith Gymraeg. Maent hyd yn oed yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi bob Mawrth y 1af trwy fynychu marchnad ac arddangosfa Gymraeg, bwyta bwydydd traddodiadol megis cig oen Cymru a diodydd megis wisgi Penderyn.
Meddai Michiko, a ddysgodd ramadeg Cymraeg sylfaenol o eiriadur Japanaeg-Cymraeg, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1997: "Dw i’n teimlo mor lwcus i fod yma yng Nghymru o’r diwedd yn dysgu iaith hyfryd y wlad.
Dw i’n mwynhau fy nghwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n waith caled ond dw i’n gweithio’n galed iawn ac yn benderfynol o ddod yn rhugl a dychwelyd i Gymru eto.”
James Morris
Myfyriwr llawn amser yw James Morris, 25 oed o Gaerdydd, sy’n gweithio tuag at radd mewn plismona ym Mhrifysgol Morgannwg ac sydd o’r farn y bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ei helpu ar y bît.
Er mai ond ychydig wythnosau sydd ers i James ddechrau dysgu Cymraeg mae’n dweud bod ei sgiliau ieithyddol yn datblygu bob dydd o ganlyniad i’w agwedd benderfynol a safon y dysgu ar y cwrs WLPAN wyth wythnos yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Meddai James: "Dw i’n meddwl y bydd dysgu siarad Cymraeg yn fy helpu gyda fy ngradd ac yn fy ngalluogi i gyfathrebu’n well â’r cyhoedd fel heddwas.
Dw i hefyd eisiau gallu gwerthfawrogi diwylliant a digwyddiadau Cymraeg yn iawn, a sgwrsio gyda fy ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.
Dw i’n gweld y gramadeg yn eithaf anodd ond dw i’n benderfynol ac yn llawn angerdd tuag at yr iaith felly dw i’n mynd i lwyddo!”
Lawrence Huxham
Mae Lawrence Huxham, sy’n un-deg-naw mlwydd oed o Wlad Belg, yn dilyn ôl traed ei deulu drwy ddysgu Cymraeg yr haf hwn.
Daw tad-cu a mam-gu Lawrence o Gorwen, gogledd Cymru, ac yn ystod ymweliadau â Chymru pan oedd yn iau gwnaeth addewid y byddai, ryw ddydd, yn dysgu siarad Cymraeg, eu hiaith gyntaf.
Roedd Lawrence, sy’n fyfyriwr mewn ysgol Brydeinig ym Mrwsel, hefyd yn chwarae’r mandolin mewn grŵp llinynnau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2005 drwy e-bostio a siarad ar y ffôn gyda dysgwyr eraill o bedwar ban byd.
Meddai Lawrence, sy’n astudio’r lefel Pellach ar Gwrs Haf Canolfan Caerdydd a Bro Morgannwg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Dw i’n mwynhau’r cwrs yn fawr. Mae’n ddwys iawn ond dwi’n teimlo bod fy sgiliau iaith yn gwella’n gyflym.
Yn ogystal â dysgu’r iaith Gymraeg, dw i hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am hanes a diwylliant Cymru. Mae Cymru yn wlad naturiol hardd ac mi fydden i’n hoffi dod yma i fyw ryw ddydd.”