Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl y bont

 

Mae’n eitha posib fod sawl un ohonoch chi wedi clywed eich cyd-weithwyr neu’ch plant yn sôn am Moodle. Mae e hefyd yn bosib fod nifer ohonoch chi’n gwybod beth yw Moodle ac mae e hyd yn oed yn debyg fod rhai ohonoch chi’n defnyddio Moodle yn eich sefydliadau. Ond i’r rheini ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r gair rhyfedd hwn, dyma ychydig o fanylion cyffredinol.

Platfform e-ddysgu ar gyfer y byd addysg yw Moodle, yr hyn a elwir weithiau yn ‘rhith amgylchedd dysgu’.  Efallai i chi glywed am feddalwedd Blackboard. Wel, mae Moodle yn feddalwedd debyg.

Mae’r rheini a ddatblygodd y feddalwedd yn ei disgrifio fel  Modular Object-Oriented Dynamic Learning Environment, a dyna darddiad yr enw Moodle. Erbyn hyn mae gan nifer helaeth o golegau ac ysgolion ar draws y byd (gan gynnwys Cymru) eu safleoedd Moodle.

Wedi ymgynghori â’r canolfannau Cymraeg i Oedolion, penderfynodd Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru y dylid sefydlu safle Moodle ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion, a’r enw a roddwyd arno yw Y Bont.

Wrth i chi ddarllen y pwt yma, rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol mai dyma rifyn olaf Y Tiwtor. Fe fydd Y Bont yn disodli’r Tiwtor fel adnodd ar-lein ar gyfer tiwtoriaid. Ond fe fydd yn adnodd ar gyfer dysgwyr yn ogystal. Serch hynny, bydd safle’r Tiwtor yn dal i fodoli. Er na fydd yn cael ei ddiweddaru, fe fydd yr holl adnoddau sydd ar safle’r Tiwtor ar hyn o bryd (gan gynnwys yr archif swmpus), yn dal i fod ar gael i diwtoriaid.  Ac fe fydd dolenni ar safle’r Bont i fynd â chi yn union at safle’r Tiwtor.

llun moodleFelly, i grynhoi, platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion fydd gwefan Y Bont ac mae’n un o fentrau Llywodraeth Cymru.

A dweud y gwir, nid un wefan fydd Y Bont ond saith gwefan: Un safle canolog ac un i bob un o’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion. Fe fydd pob canolfan yn datblygu ei safle ei hun a phob un o’r safleoedd hynny wedi ei gysylltu â’r safle canolog drwy berthynas ddwy-ffordd. 

 

CBAC fydd yn darparu safle canolog Y Bont. Arno, fe fydd corlan i’r Dysgwyr ac un i’r Tiwtoriaid. Ni fydd angen i ddysgwyr fewngofnodi. Fe fydd unrhyw un yn cael mynediad i ardal y Dysgwyr yn gwbl ddirwystr.

Fodd bynnag, fe fydd angen mewngofnodi i gael mynediad i ardal y Tiwtoriaid. Yn y dyfodol agos, bydd CBAC yn dechrau casglu enwau a chyfeiriadau e-bost tiwtoriaid i’w hychwanegu at ein cronfa ddata. Er bod gan CBAC nifer fawr o enwau a chyfeiriadau tiwtoriaid yn barod, yn anffodus, ni fyddwn yn gallu eu defnyddio ar gyfer Y Bont. Mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth cyfrinachedd inni greu cronfa newydd ar gyfer Y Bont.

Mae meddalwedd Moodle yn hyblyg iawn ac rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn cychwyn ar y gwaith o adeiladu’r safle i ateb gofynion y maes. Fel man cychwyn, rydyn ni’n rhagweld y bydd gan Y Bont y math canlynol o gynnwys:

taflen y bontOnd, man cychwyn yw hyn, ac rydyn ni’n rhagweld y bydd y safle yn datblygu (a gwella!) yn barhaus.  Felly rydyn ni’n awyddus iawn i dderbyn unrhyw sylwadau ac awgrymiadau gan diwtoriaid a dysgwyr yn ymwneud â chynnwys neu strwythur y safle, naill ai nawr neu ar ôl i’r safle gael ei lansio.

Dyw’r safleoedd ddim yn barod eto ac rydyn ni’n gobeithio lansio’r safle canolog yn yr haf.  Bydd y canolfannau rhanbarthol yn penderfynu eu hamserlenni eu hunain.

Mae pob canolfan newydd benodi ‘Pencampwr Moodle’ a byddwn ni’n cysylltu â nhw yn y dyfodol agos i wyntyllu syniadau a gofynion.  Felly, os oes gennych chi syniadau neu awgrymiadau mae croeso i chi gysylltu â ni yma yn CBAC neu â’ch Pencampwr.

Pencampwyr Moodle y Rhanbarthau

Caerdydd – Gareth Mahoney
Canolbarth – Phyl Brake, Nic Dafis a Dafydd Morse
Gogledd – Siwan Hywel
De-orllewin – Mark Stonelake
Gwent – Nigel Ruddock
Morgannwg – Gareth Clee

Caiff yr holl fanylion ynghylch lansio’r Bont eu cyhoeddi yn nes at yr adeg.

 

llinell lliw