Ar ddiwedd mis Ionawr eleni, daeth bron i gant o bobl at ei gilydd ar gyfer cyfarfod arbennig yn Aberystwyth. Enw’r digwyddiad oedd Hacio'r Iaith, digwyddiad agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.
Cyfle oedd hwn i bobl sy'n gwneud projectau digidol, gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Dw i’n dweud ‘digwyddiad’ ond bron i fi ddweud ‘cynhadledd’. Ond nid ‘cynhadledd’, yn ystyr arferol y gair, oedd Hacio’r Iaith. Roedd yn ddigwyddiad a gafodd ei seilio ar fformat BarCamp sydd eisoes yn fformat cydnabyddedig ar gyfer cynnal fforymau deinamig a chreadigol.
Un diffiniad o BarCamp glywais i yn ddiweddar yw ‘ang-nghynhadledd’, sef y gwrthwyneb i ‘gynhadledd’. Dyma rai o’i nodweddion:
- Does dim rhaglen o siaradwyr wedi’i threfnu o flaen llaw, dim ond grid o lefydd siarad ar hysbysfwrdd gyda slotiau amser i’w llenwi ar y dydd.
Y grid gwag ar ddechrau’r dydd
- Disgwylir i bawb sy’n mynychu gyfrannu rhywbeth. Rhannu a rhwydweithio yw’r nod, nid traethu a darlithio. Felly, wrth ymgasglu dros baned fe ddechreuwyd ar y broses o lenwi’r grid.
Ymhen hanner awr, roedd y grid yn frith gan ystod eang o gynigion ac fe ddechreuodd Hacio’r Iaith o ddifrif.
Gyda dros ugain o sesiynau roedd yn amhosib mynychu pob un. Mwynheuais i’r rhai a fynychais i’n arw – a dysgais i lawer – a chlywais i ganmol ar nifer o’r sesiynau a gollais i.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
- Bryn Salisbury yn cynnig syniadau am ddatblygiad S4C mewn oes lle bo teclynnau clyfar symudol, rhwydweithio cymdeithasol a’r We 2.0 yn awr yn gyffredin iawn. Roedd hwn yn destun at ddant nifer fawr ac wedi ennyn trafodaeth ddifyr dros ben (a sawl person o’r cyfryngau yn bresennol hefyd). Y farn gyffredinol oedd bod fformatiau darlledu traddodiadol o dan fygythiad a bod angen ymgorffori datblygiadau megis technoleg ffrydio Di-Wi, teclynnau symudol, rhwydweithio cymdeithasol, ac ati, yn rhan o gymysgedd dulliau darlledu.
- Adroddiad ar sefyllfa e-gyhoeddi Cymraeg. Delyth Prys yn trafod ffrwyth ymchwil Canolfan Bedwyr ar y pwnc. Roedd llawer o drafod brwd yma ynglŷn â dyfodol cyhoeddi e-lyfrau, yn enwedig yn sgîl y newyddion da bod e-lyfrau’r Lolfa yn awr ar gael ar Amazon. Mae hyn wedi agor y drws i e-lyfrau Cymraeg eraill gael eu gwerthu ar y safle. Un o’r prif argymhellion, gan fod cynifer o blatfformau e-ddarllen ar y farchnad nawr, oedd bod angen paratoi e-lyfrau mewn mwy nag un fformat. Wrth lwc, mae ‘na sawl pecyn meddalwedd ar gael sy’n gwneud y gwaith hwn yn weddol ddiffwdan.
Un o’r ystadegau trawiadol ddaeth allan o ymchwil Canolfan Bedwyr
- Yn dilyn hwn, es i i sesiwn ymarferol hynod ddefnyddiol gan Iestyn Lloyd ar yr agwedd dechnegol o sut i fynd ati i greu e-lyfr: pa feddalwedd i’w defnyddio; y fformatiau mwyaf poblogaidd; tips cynllunio; opsiynau cyhoeddi; ac ati.
- Darllediad byw ar-lein o Haclediad, sef y podlediad misol sy’n trafod y datblygiadau diweddara ym myd technoleg ddigidol. Mae’r podlediad hwn, ynghyd â phob Haclediad arall, ar gael am ddim i’w lawrlwytho o iTunes.
- Gweithdy ar gynhyrchu ffilmiau byrion yn defnyddio DSLRs gyda Rhys Llwyd.
- Cyflwyniad Lleucu Meinir ar Sianel62.com, sef sianel deledu, ar-lein, newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cafwyd trafodaeth hefyd ar fideo cymunedol.
- Sesiwn ar Wicipedia Cymraeg gan Rhys Wynne.
- ‘Bara Menyn: Memes rhyngrwyd Cymraeg’ gan Rhodri ap Dyfrig.
- Roedd Twitter yn bresennol yn Hacio’r Iaith mewn mwy nag un ffordd: Pawb yn trydar yn frwd yn disgrifio’r sesiynau a’r pwyntiau llosg oedd yn codi drwy gydol y dydd. Cafwyd sesiwn ar ‘Ddadansoddi rhwydweithiau Twitter’ gan Hywel Jones ac un arall gan Ian Johnson yn dangos ffrwyth ei ymchwil i’r defnydd o iaith ar Twitter.
- Yn ogystal, rhoddwyd ffrwd fyw Twitter ar y sgrin mewn rhai sesiynau fel bod y gynulleidfa oedd yn bresennol – yn ogystal â’r rheini oedd yn dilyn Hacio’r Iaith o bellter ar y we – yn gallu cyfrannu at y sesiynau.
- ‘Fflachio’r Iaith: Creu Android Cymraeg’, gan Carl Morris.
- Gruff Prys yn cyflwyno ‘Glyder’, sef meddalwedd newydd Canolfan Bedwyr ar gyfer cyfieithu peirianyddol.
- Huw Marshall yn cyflwyno menter gyffrous dros ben, sef Twrw, Radio’r Cymry, gorsaf radio, Gymraeg, ar-lein, newydd sbon fydd gyda ni cyn hir.
Ac yn ein maes ni, cafwyd sesiwn ddifyr iawn gan Leia Fee ac Ivan Baines am gyrsiau ar-lein Say Something in Welsh ac fe ges i gyfle i drafod cardiau geirfa digidol Canolfan Morgannwg, dysgu symudol a dyfodiad Moodle i faes Cymraeg i Oedolion.
Blas yn unig yw hyn o beth oedd ar y fwydlen. I ddweud y gwir, roedd na ddanteithion ymhob man – llawer gormod i’w profi i gyd. Ond os hoffech chi weld mwy o’r hyn a ddigwyddodd yn Hacio’r Iaith 2012, ewch i http://haciaith.com lle y gwelwch chi adroddiadau, fideos a dolenni i flogiau ac adroddiadau.
Mae Hacio’r Iaith yn ddigwyddiad blynyddol nawr ers tair blynedd ond cymaint oedd y bwrlwm yn Aber fis Ionawr, mae ‘na gynlluniau ar y gweill i gynnal Hacio’r Iaith Bach yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Ceir manylion eto ar wefan http://haciaith.com .
Falle y ela i chi 'na!
Maldwyn Pate, Chwefror 2012