Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Gloywi iaith

Un o sesiynau mwyaf poblogaidd y gynhadledd genedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion eleni oedd y sesiwn gloywi iaith gan Elin Meek. Mae Elin yn gyfieithydd llawrydd, addasydd llyfrau ac yn awdur profiadol iawn yn enwedig o safbwynt deunyddiau dysgu.

Yn y sesiwn hon, edrychwyd ar rai problemau cyffredin wrth dreiglo, er mwyn gwella iaith tiwtoriaid.  Ymhlith nifer o bethau eraill, cafwyd tasgau i’w cwblhau ar dreiglo ar ôl ‘yn’, treiglo yng nghyd-destun cenedl enwau a phroblemau cyffredin eraill.

Yn ogystal â gloywi iaith tiwtoriaid, gellir defnyddio nifer o’r tasgau hefyd i wella iaith dysgwyr ar lefelau Uwch a Hyfedredd.

Dyma flas ar un o’r gweithgareddau isod, ac ewch i’r adran Deunydd Dysgu i weld mwy o dasgau gloywi.

Gweithgaredd yn ymwneud â chenedl enwau.
Rhaid clicio ar y cyflwyniad pwerbwynt sy’n cydfynd â’r gweithgaredd.

Dyma weithgaredd lle mae’n rhaid i'r dosbarth ddynodi a ydy enw'n fenywaidd neu'n wrywaidd (codi beiro os yn fenywaidd; pren mesur os yn wrywaidd). Wedyn, clicio i ddatgelu'r enw (glas neu binc). Darllen yr enw a'r ansoddair dilynol yn uchel. Ar ddiwedd y gweithgaredd, gofyn am yr ansoddair oedd yn gysylltiedig â phob enw. Dyma ffordd o gofio cenedl gair, drwy gyplysu enw ag ansoddair. Mewn gwirionedd, gellid gwneud yr un peth gydag enwau cyffredin unrhyw bryd yn ystod cwrs.

 

botwmCliciwch yma i weld
y cyflwyniad pwerbwynt.

 

llinell