Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cystadleuaeth

Yn rhifyn 18 soniwyd am y cwrs Cymraeg i’r Teulu newydd, a’r wobr oedd copi o lyfr cwrs Blwyddyn 1, yn ogystal â phecyn Cardiau Fflach Bach CBAC 2.

Cymraeg i’r Teulu
Yn ddiweddar cyhoeddwyd rhan gyntaf cwrs arbennig, sef cwrs Cymraeg i’r Teulu. Mae’r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer rhieni ac eraill sydd yn gofalu am blant oedran y Cyfnod Sylfaen (0-7 oed) yn y cartref, ond bydd hefyd yn berthnasol i staff cylchoedd meithrin, athrawon ysgol ac eraill fydd am ddefnyddio’r iaith gyda phlant. Nod y cwrs yw dysgu iaith yn y dosbarth i oedolion ei defnyddio gartref rhwng y sesiynau; nid yw wedi ei fwriadu ar gyfer dysgu gyda’r plant mewn dosbarth. 
Mae’r cwrs yn ei gyfanrwydd yn cynnwys 60 uned x 2 awr yr un. Mae’r rhan gyntaf (sef Mynediad 1) yn cynnwys unedau 1-30, ac mae’r ail ran (Mynediad 2) yn cynnwys 31-60.

Mae’r unedau’n dilyn y drefn isod (ac eithrio’r unedau adolygu: nid oes yn y rheiny batrymau newydd, deialog na chân).

  1. Patrymau
  2. Nodiadau
  3. Gweithgareddau ymarfer
  4. Gwaith ynganu (Seiniau’r Gymraeg) – Unedau 1-12
  5. Deialog
  6. Cân (neu rap)
  7. Geirfa’r uned nesaf
  8. (ar y CD yn unig) Profwch eich hunan

Os am roi cynnig ar y gystadleuaeth, roedd yn rhaid i chi ateb y cwestiwn canlynol:

Faint o unedau sydd yn y cwrs Cymraeg i’r Teulu cyfan?

Yr ateb wrth gwrs yw 60 uned, a’r enillydd yw Cara Jones o Gaerdydd. Llongyfarchiadau mawr iddi.

llinell


cystadleuaeth newydd

Dyma rifyn olaf ‘Y Tiwtor’ ac wrth edrych yn ôl ar yr holl rifynnau sydd wedi eu cyhoeddi ers y cychwyn (cyfanswm o 19!), mae’n rhyfeddol faint o bobl, mudiadau a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y broses. Mae’n diolch yn fawr i bob un ohonynt.

y tiwtor

Yn yr adran hon y bwriad oedd ceisio rhoi blas i’n darllenwyr ar y math o fusnesau, siopau a chwmnïau sy’n cynnig eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad yn medru cynnig croeso cynnes i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau iaith. Diolch o galon am yr holl wobrau sydd wedi eu cynnig ymhob rhifyn.

 

canolfan celfyddydauUn sefydliad sydd wedi bod yn flaengar iawn o ran cynnig gwasanaethau, cyrsiau, gweithdai, ffilmiau a sioeau cyfrwng Cymraeg yw Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Mae’r lleoliad yn fendigedig ac mae’r Ganolfan wedi ennill sawl wobr. Dyma’r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. 
Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau.
Yn ôl un llefarydd, 'rydym yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu'r celfyddydau perfformio a gweithgareddau yn nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; 236,000 ym ymweld â'r arddangosfeydd a  thros 100,000 yn cymryd rhan yn ein rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw. 

Yn 2000 cwblhaodd Canolfan y Celfyddydau ail-ddatblygiad gwerth £4.3 miliwn. Yn 2009 bu'n ymgymryd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn a ychwanegodd at gyfleusterau'r Ganolfan nifer sylweddol o stiwdios ar gyfer artistiaid a'r diwydiannau creadigol, sydd hefyd yn gartref i'r sawl sy'n cymryd rhan yn rhaglen artistiaid preswyl uchelgeisiol y Ganolfan. Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn golygu bod gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth amrediad o gyfleusterau sydd heb eu hail ym Mhrydain. 

Rydym yn ddiolchgar iawn i Ganolfan y Celfyddydau am gynnig gwobr hael a chyffrous ar gyfer cystadleuaeth olaf Y Tiwtor.

hairspraySioe haf 2012 y Ganolfan fydd y sioe gerdd ‘Hairspray’, yn llawn lliw, canu a bwrlwm, a’r wobr yw dau docyn ar gyfer noson agoriadol ‘Hairspray’ ar 27 Gorffennaf 2012.
Mae’r sioe yn adrodd stori Tracy Turnblad, sy’n cystadlu mewn cystadleuaeth ddawnsio ar y teledu. Mae popeth amdani hi’n fawr – ei chalon, ei breuddwydion, ei mam … a hyd yn oed ei gwallt!   

Am gyfle i ennill y tocynnau, atebwch y cwestiwn canlynol ac anfonwch yr ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu. Y dyddiad cau yw 2 Ebrill.

  Sawl rhifyn o’r Tiwtor sydd wedi ei gyhoeddi ers y dechrau? (gan gynnwys y rhifyn hwn.)

Pob lwc!

llinell lliw