Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ariannu Estyn, ond mae’r asiantaeth yn gweithredu’n annibynnol ar y Cynulliad. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Dibenion arolygu yw:
- darparu atebolrwydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adrodd yn gyhoeddus ar ddarparwyr;
- hyrwyddo gwelliant mewn addysg a hyfforddiant; a
- llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru.
Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael
arian gan awdurdodau lleol;
- ysgolion cynradd;
- ysgolion uwchradd;
- ysgolion arbennig;
- unedau cyfeirio disgyblion;
- ysgolion annibynnol;
- addysg bellach;
- dysgu oedolion yn y gymuned;
- hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymunedol;
- gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc;
- addysg a hyfforddiant athrawon;
- dysgu yn y gwaith;
- cwmnïau gyrfaoedd;
- dysgu troseddwyr.
Mae hynny wrth gwrs yn cynnwys canolfannau rhanbarthol Cymraeg i oedolion.
Yn y gynhadledd genedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion eleni, cafwyd cyflwyniad defnyddiol iawn gan un o swyddogion Estyn, sef Ann Jones, yn sôn am arolygu’r maes CiO.
Cliciwch yma i weld
y cyflwyniad pwerbwynt.