Cawsom ein cyflwyno i ddull dysgu Dad-Awgrymeg yn rhifyn diwethaf y Tiwtor, ac yn y rhifyn hwn mae Ioan Talfryn yn parhau â’i gyflwyniad, gan ymestyn i sôn yn benodol am y Cylch Dad-Awgrymaidd a’r Fflip Ddad-Awgrymaidd.
Y Cylch Dad-Awgrymaidd
Mae pob cwrs iaith Dad-Awgrymaidd yn cynnwys cyfres o ‘gylchoedd’ o tua 6/7 sesiwn. Mae pob cylch yn ymwneud ag un o’r actau unigol sy’n rhan o’r ddrama hir sy’n sail i’r cwrs (y ‘gwerslyfr’ neu’r testun Dad-Awgrymaidd). Mae’r act gyntaf bob tro’n hwy na’r actau sy’n dilyn.
1) Y sesiwn gyntaf (3.5 awr)
a) Cyflwyniad dramatig yn cynnwys sgerbwd o'r stori a fydd yn cael ei hadrodd yn yr act. Defnyddir propiau i sicrhau fod yr hyn a adroddir yn lled ddealladwy. Yn ystod y cyflwyniad hwn bydd y myfyrwyr yn mabwysiadu’u henwau newydd, enwau sy'n nodweddiadol o siaradwyr yr iaith darged ac sydd yn ailadrodd elfennau seinegol nodweddiadol o'r iaith darged:
e.e.
Esyllt Llwyd o Allt Melyd, Llawfeddyg
Lowri Bowen o Ddowlais, Clown Proffesiynol
Dwynwen Clwyd o Bantymwyn, Athrawes Hwylio
Hedd Ap Dafydd o Fynydd Isa, Gwyddonydd
Dewi Llewelyn Rodriguez o Drelew, Gwrw Oes Newydd
Ni fydd dysgwyr ar gwrs Dad-Awgrymaidd, fel arfer, yn dysgu enwau go iawn eu cyd-fyfyrwyr ac felly byddant, bob tro, yn gorfod eu cyfarch gyda'r enw 'ffug' yn yr iaith darged. Yr awgrym cudd a wneir trwy ddefnydd parhaus a pharhaol o'r enwau hyn yw fod y dysgwyr eisoes yn siaradwyr brodorol o'r iaith darged. Er bod hyn yn ffantasi llwyr, wrth gwrs, mae'r ffantasi, o gamu i mewn iddo, yn medru bod o gymorth mawr i ollwng hunan-ddelweddau negyddol, ac mae'n rhoi'r rhyddid i ddysgwyr fod yn rhywun arall. (1½ awr)
Egwyl
b) Y Gyngerdd Weithredol - Y dysgwyr yn derbyn copi o'r act, ynghyd â chyfieithiad ohoni, ac yn cael amser i ddarllen trwyddi'n gyflym. Wedyn, y tiwtor yn llafarganu'r testun i gyfeiliant cerddoriaeth Mozart, Beethoven neu gyfansoddwyr Rhamantaidd eraill. Y dysgwyr yn dilyn y gyngerdd yn eu llyfrau. (50 munud)
Egwyl
c) Y Gyngerdd Oddefol - Y dysgwyr yn eistedd yn ôl, yn cau eu llygaid, o bosib, ac yn gwrando ar y testun yn cael ei ddarllen unwaith eto i gyfeiliant cerddoriaeth, y tro hwn cerddoriaeth Baroque. (35 munud)
ch) Mynd adref - Y dysgwyr i ddarllen y testun yn 'ysgafn' cyn mynd i gysgu.
2) Yr Ymhelaethu (5/6 gwers)
a) Yr Ymhelaethiad Cyntaf
Y dysgwyr yn chwarae gemau gyda'r iaith a gyflwynwyd yn y testun. Bingo, tennis, ail ffurfio llinellau neu frawddegau allan o’r testun a.y.y.b. Y bwriad yw dwyn i gof yr hyn a blanwyd yn yr isymwybod eisoes (yr effaith Pöetzl).
b) Yr Ail Ymhelaethiad
Gemau, dramâu, caneuon, gweithgareddau amrywiol mwy penagored, i gael y dysgwyr i ddefnyddio'u hiaith newydd yn greadigol.
Dyma’r math o weithgareddau y mae tiwtoriaid weithiau’n eu benthyca a’u hymgorffori i mewn i’w cyrsiau traddodiadol gan feddwl yn gyfeiliornus eu bod, trwy wneud, yn dysgu ychydig bach o Ddad-Awgrymeg. Er mwyn iddynt fod yn weithgareddau Dad-Awgrymaidd go iawn, fodd bynnag, mae angen iddynt ddigwydd fel ymhelaethiad o’r mewnbwn swmpus gwreiddiol a gyflwynwyd yng ngwers gyntaf y cylch Dad-Awgrymaidd.
Yn wreiddiol arferid cwblhau’r Ymhelaethiad Cyntaf yn llwyr cyn mynd at Yr Ail Ymhelaethiad ond bellach tueddir i gyfuno’r ddau wrth fynd trwy’r testun.
Y Fflip Ddad-Awgrymaidd
Un o’r allbynnau mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â Dad-Awgrymeg yw’r hwn y gellid ei ddisgrifio fel fflip ieithyddol - newid sydyn, eithaf trawiadol, ym mherfformiad y dysgwyr yn yr iaith darged (o’i gyferbynnu â’r newid graddol sy’n digwydd ar gyrsiau traddodiadol * ).
Y Fflip sydyn hon sy’n gyfrifol am y ffaith fod dysgwyr ar gyrsiau Dad-Awgrymeg yn tueddu i feistroli iaith yn hanner yr amser (neu draean yr amser, hyd yn oed) o’u cymharu â dysgwyr ar gyrsiau traddodiadol (gweler The Act Approach gan Lynn Dhority o Brifysgol Havard.) Fel y nodais uchod, maen prawf llwyddiant ein cyrsiau Dad-Awgrymeg ni yn Popeth Cymraeg yw medru cael mwyafrif ein dysgwyr Dad-Awgrymaidd i basio’r arholiad Canolradd yn hanner yr amser disgwyliedig (180 awr yn lle 360).
Y term swyddogol ar y math hwn o newid sydyn yw Cyfnewidiad Gwedd (Phase Transition), ffenomenwm sy’n digwydd yn gyson mewn systemau ffisegol, biolegol a chymdeithasol, yn enwedig systemau cymhleth integredig. Dro’n ôl cefais fy ngwahodd i draddodi araith yng nghynhadledd genedlaethol Ysgolion Iaith Swyddogol Sbaen (Escuelas Oficiales de Idiomas) yn Gran Canaria. Testun yr araith honno oedd y Fflip Ddad-Awgrymaidd a’r cyswllt rhyngddi â meysydd Caffael Iaith a Damcaniaeth Cymhlethdod.
I grynhoi’r erthygl (a’i gor-symleiddio), yr hyn sy’n creu Cyfnewidiadau Gwedd yw Dwysedd Tyngedfennol, sef ystâd pan fydd cymaint o unedau neu elfennau unigol (moleciwlau, endydau biolegol, unedau masnachol, niwronau a.y.y.b.) wedi’u cywasgu a’u cyfyngu mewn un lle ac yn rhyngweithio â’i gilydd mewn un system. Unwaith y bydd y Dwysedd Tyngedfennol wedi’i gyrraedd ceir trobwynt dramatig yn natur y system (y Tipping Point bondigrybwyll) a bydd y system yn newid yn sydyn i ystâd arall (e.e. rhew yn troi’n ddŵr yn troi’r ager).
Prif rinwedd Dad-Awgrymeg, a’r rheswm am ei lwyddiant, yw ei fod yn galluogi dysgwyr i draflyncu toreth o iaith (trwy’r meddwl anymwybodol ac ymwybodol) mewn cyfnod byr gan sbarduno Cyfnewidiad Gwedd yn eu Rhyngiaith. Golyga hyn fod dysgwyr yn cyrraedd rhuglder lawer cynt nag ar gyrsiau traddodiadol ac, yn bwysicaf na dim, yn gwneud hynny cyn iddynt ddechrau gwangalonni a rhoi’r gorau iddi.
Os hoffech ddarllen dadansoddiad manylach o’r Fflip Ddad-Awgrymaidd gweler Ants In My Head, sef testun yr araith a draddodais yn Gran Canaria.
* Mae mater newid herciog, sydyn o’i gyferbynnu â newid graddol wedi bod yn destun anghytuno mawr ym maes esblygiad. Cred Darwiniaid Traddodiadol (yn eu plith Richard Dawkins) fod esblygiad yn broses raddol tra bo carfan arall o Ddarwiniaid (yn cynnwys Stephen Jay Gould a Richard Lewontin) wedi dadlau bod esblygiad yn medru digwydd fesul naid neu herc. Bedyddiwyd syniadau’r ail garfan (sef yr hercwyr) gan y Darwiniaid Traddodiadol yn Evolution By Jerks. Ymateb Gould i hyn oedd disgrifio syniadau’r garfan draddodiadol (sef y graddol wŷr) fel Evolution By Creeps. Hwyrach y gellid gwahaniaethu rhwng dosbarthiadau traddodiadol a dosbarthiadau Dad-Awgrymeg trwy eu disgrifio fel Welsh Classes for Creeps a Welsh Classes for Jerks.
Credaf y dylai Cymraeg i Oedolion fod yn eglwys eang, gynhwysol sy’n rhoi lle teilwng i Creeps a Jerks fel ei gilydd.