A wyddoch chi beth yw arwyddocâd y rhifau isod?
44 – nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gan Felicity Roberts fel tiwtor Cymraeg.
729 – nifer y myfyrwyr sydd wedi astudio ei modiwl ‘Crefft Adfer Iaith’ yn y Brifysgol.
21 – nifer yr oriau o waith dysgu sydd ganddi ar hyn o bryd mewn wythnos.
100 x 100 x ... – nifer y myfyrwyr y mae hi wedi eu dysgu i siarad Cymraeg.
Erbyn hyn, un o fawrion y byd Cymraeg i Oedolion ac un sydd wedi bod fel angor i ddysgwyr a thiwtoriaid, fel ei gilydd, er i’r maes ei hun fynd o un cyfeiriad i’r llall ar hyd y blynyddoedd, yw Felicity Roberts. Hefyd, bu am gyfnod helaeth yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a pha diwtor arall all nodi enwau nifer o swyddogion y canolfannau CiO ymhlith ei myfyrwyr? Pobl fel Helen Prosser, Geraint Wilson Price, Adrian Price, Dafydd Morse, Siwan Hywel a Chris Reynolds!
Er ei bod wedi ymgartrefu gyda’i chymar yn ardal Aberystwyth ers blynyddoedd bellach, cafodd Felicity ei magu yn Chwilog, ger Pwllheli. Bu’r fagwraeth hon ar aelwyd Gymraeg yn Chwilog yn fflam yn ei chalon, ac yn ysbrydoliaeth barhaus iddi. Treuliodd bedair blynedd yn Ysgol Gynradd Chwilog cyn mynd ymlaen i ysgol breswyl, sef Ysgol Cwfaint St Gerard’s ym Mangor. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ysgol breswyl Howell’s yn Ninbych. Er iddi fwynhau astudio ieithoedd yn fawr iawn yn yr ysgol, a hithau’n dipyn o ieithydd, mae’n syndod clywed mai ei phynciau lefel uwch yn yr ysgol oedd Sŵoleg, Botaneg a Chemeg!
Ymlaen wedyn i’r Coleg Normal, Bangor, i gwblhau cwrs hyfforddiant athrawon. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio am gyfnod fel cynorthwyydd ymchwil yn ogystal ag athrawes gynradd. Erbyn iddi hi a’i gŵr gyrraedd Aberystwyth ym 1967 roedd ganddynt ddau o blant, ac yn y blynyddoedd wedi hynny ehangodd y teulu bach gyda dyfodiad pedwar arall. Er yr holl brysurdeb sy’n dod gyda theulu ifanc, mae’n dyst i ymrwymiad Felicity i’r maes CiO iddi ddechrau dysgu dosbarth nos Cymraeg i oedolion ym 1968 - a hynny ar ôl i Gwilym Tudur ei pherswadio!
Mae gan Felicity ddiddordeb mawr mewn pethau celtaidd ac mae wedi bod yn mynd i gynadleddau’r Gyngres Geltaidd yn rheolaidd ers blynyddoedd. Gwnaed penderfyniad ganddi i geisio cyfathrebu â chyfeillion yn y gwledydd celtaidd eraill drwy ddefnyddio eu hieithoedd hwy yn hytrach na gorfod troi at yr iaith gyffredin, sef Saesneg, neu Ffrangeg yn achos y Llydawyr. Felly, dechreuodd ar y broses o ddysgu’r Llydaweg yn gyntaf, yna’r Wyddeleg. Cyn hir, daeth cyfle i gwblhau cwrs gradd mewn Astudiaethau Celtaidd, a thua’r un adeg dechreuodd weithio fel tiwtor rhan amser yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth. Yn fuan wedyn fe’i penodwyd yn ddarlithydd yno, gyda chyfrifoldeb am ddysgu’r modiwl ‘Crefft Adfer Iaith,’ ymhlith nifer o gyrsiau eraill. Dechreuodd ar y gwaith hwnnw ym 1980 ac mae hi’n dal i ddarlithio ar rai modiwlau yn yr Adran.
Yn 2007 penodwyd Felicity yn diwtor drefnydd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru a bu yn ei helfen yn gwneud y gwaith hwnnw. Erbyn hyn, a hithau wedi ymddeol yn swyddogol, mae’n dysgu 21 awr yr wythnos, a hi sydd â chyfrifoldeb am ddysgu Cymraeg i is-ganghellor y Brifysgol. Mae ei phrofiadau a’i chyngor yn werthfawr iawn i ddysgwyr a thiwtoriaid eraill. Dywed mai’r elfennau pwysicaf wrth geisio cynnal dosbarth Cymraeg llwyddiannus yw meithrin perthynas o gyfeillgarwch ac ymddiriedaeth, a sicrhau bod y cyfathrebu yn ddiddorol ac yn digwydd i bwrpas. Mae trosglwyddo’r ‘pethe’ amhrisiadwy hynny sydd yn mynd law yn llaw â medru siarad yr iaith Gymraeg hefyd yn hollbwysig
Nid yw ei diddordeb yn yr ieithoedd celtaidd eraill wedi pylu chwaith ac yn 2006 llwyddodd i ennill gradd MA mewn Gwyddeleg. Ar hyn o bryd, mae Felicity hefyd yn teimlo’r angen i loywi ei Llydaweg, gyda phedwar o siaradwyr Llydaweg, prin eu Saesneg yn un o’i dosbarthiadau. Ei diddordeb mawr arall yw canu gyda chôr CYD Aberystwyth, a chydlynu ei weithgareddau. Mae’r gwaith hwnnw yn cyfrannu’n fawr at y gymuned leol drwy ddod â dysgwyr a siaradwyr rhugl y Gymraeg at ei gilydd yn rheolaidd i gael hwyl a gwneud rhywbeth sydd yn ddiddordeb cyffredin ganddynt, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r côr yn ymweld yn gyson â mudiadau a chymdeithasau, ac yn cyfrannu’n arbennig at y traddodiad o ganu plygain.
Ar yr ochr bersonol, ei llawenydd pennaf yw bod pob un o’i chwe phlentyn, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn buddsoddi eu hegnïon i warchod buddiannau Cymru a’r iaith Gymraeg. Ar lefel broffesiynol mae hi’n barod iawn ei chymwynas i eraill yn y maes CiO ac mae hi wedi ymrwymo’n llwyr i gael ei myfyrwyr i lwyddo yn eu hymdrechion i feistroli’r iaith. Mae’n amlwg bod ei gwaith fel tiwtor Cymraeg yn rhan gwbl greiddiol o’i ffrordd o fyw, gwaith sydd hefyd yn ymblethu â’i rôl fel mam, a nain i ddeunaw o blant a phobl ifanc .