Cawson ni hwyl a sbri yn y Fenni pan ddaeth Martyn Geraint a Heini o S4C i berfformio yn ystod Diwrnod i’r Teulu yn yr Ysgol Gymraeg. Agorwyd y Diwrnod gan Gôr yr Ysgol a Sioe Martyn Geraint gyda gwledd o weithgareddau – mwynheuodd y plant yn fawr iawn a dysgodd y rhieni di-Gymraeg lawer!!
Hefyd, roedd amrywiaeth o weithgareddau eraill fel cystadleuaeth creu Cerdyn Nadolig i blant dan 7 oed; cystadlaethau pêl-droed a phêl-rwyd dros 8 oed; byrddau crefft; twb lwcus a gemau.
Cafodd y llyfr, ‘Croeso i’n Cragen’, gan Julia Donaldson, ei ddarllen gan Esther Thomas o TWF ac yn ogystal â pheintio wynebau, gwnaeth Amanda o Masquerade sioe falwnau cyn i Heini gloi’r Diwrnod.
Mae pum dosbarth Cymraeg I’r Teulu yn yr ysgol, ar hyn o bryd a gobeithio y bydd y rheini’n mynd o nerth i nerth.
Dyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Pennaeth, Mrs Ann Bellis, a staff yr ysgol.
Diwrnod llawn
Hwyl a Sbri yn
Ysgol Gymraeg
Y Fenni!