Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl canllaw arholiad

Erbyn cyrraedd diwedd y lefel Ganolradd, mae disgwyl i ddysgwyr fedru deall rhai o’r prif nodweddion sy’n gwahanu tafodieithoedd y de a thafodieithoedd y gogledd. Nid yw hynny’n golygu bod disgwyl iddyn nhw fedru trosi o’r naill i’r llall, dim ond eu bod yn deall y ffurfiau amlycaf pan fyddont yn codi yn y prawf darllen neu’r prawf gwrando. Yn y prawf gwrando, bydd y ddeialog neu’r sgwrs ar gael yn ffurfiau’r de neu’r gogledd, ond y bwletin newyddion yn unffurf. Yn y prawf darllen, ceisir cael cydbwysedd fel bod rhai ffurfiau o’r ddwy dafodiaith i’w gweld mewn tasgau gwahanol. Lle bo eitem yn dibynnu ar air neu ymadrodd penodol, ni ddefnyddir gair a allai fod yn ddieithr i’r naill ardal neu’r llall.  Os bydd y gair neu’r ymadrodd yn allweddol, rhoddir y ddwy ffurf, a’u gwahanu gan ddefnyddio blaenslaes.

Dyma restr o’r eirfa a’r cystrawennau y disgwylir i ymgeiswyr Canolradd fedru eu deall yn y profion goddefol felly. Dim ond canllaw yw hwn i diwtoriaid a all fod yn gymorth wrth baratoi ymgeiswyr.

 

 cystrawen


llinell