Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

adnoddau

Mae’n gyfnod diddorol ym maes Cymraeg i Oedolion. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran Cymraeg i Oedolion yn cynnwys e-ddysgu, dysgu anffurfiol, Cymraeg i’r Teulu, Cymraeg yn y gweithle, hyfforddi tiwtoriaid ac annog cymaint o ddysgwyr â phosibl i fynychu cyrsiau dwys, a thra bod sefyllfa economaidd lwyd yn creu ansicrwydd inni i gyd, mae nifer o ddatblygiadau cyffrous yn codi gobeithion i’r dyfodol yn y maes.

Bydd darllenwyr Y Tiwtor yn gweld un newid amlwg yn fuan. Wedi ffarwelio â’r Tiwtor a diolch i CBAC am eu gwaith da wrth ddatblygu’r cylchgrawn, byddwn yn croesawu gwefan newydd sbon i diwtoriaid a dysgwyr ymhen rhai misoedd o’r enw Y Bont. Mae hwn yn brosiect mawr iawn a bydd yn cymryd amser cyn y bydd y wefan yn gallu cael ei defnyddio’n llawn. Ond pan fydd yn barod, bydd yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau, dulliau cyfathrebu a’r modd i diwtoriaid i gael gofod bach ar y wefan ar gyfer pob dosbarth y maen nhw’n eu cynnal.  Mae posibiliadau’r feddalwedd yn gyffrous iawn a bydd tiwtoriaid brwdfrydig yn gallu gosod gwaith cartref a marcio’r gwaith ar-lein yn fuan!

taflen y moodle

Gobeithio y bydd y wefan hon yn codi proffil dysgu Cymraeg yn ogystal â bod yn ddefnyddiol, ac ry’n ni’n hyderus y bydd proffil dysgu Cymraeg yn codi’n gyffredinol dros y flwyddyn nesaf. Un datblygiad cyffrous yw bod S4C wedi comisiynu gwasanaeth newydd i ddysgwyr. Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd rhaglen deledu awr o hyd o’r enw ‘Hwb,’ yn arbennig ar gyfer dysgwyr, yn cael ei darlledu bob prynhawn Sul o fis Mawrth ymlaen. Yn ogystal â rhoi cyfleoedd dysgu ac ymarfer i’r dysgwyr, bydd y rhaglen hefyd yn hysbysebu digwyddiadau a gweithgareddau dysgu anffurfiol a chymdeithasol. Bydd cyfres arall o’r rhaglen boblogaidd, Cariad@Iaith, hefyd yn cael ei ffilmio a’i darlledu eleni. 

Mae sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth yn bwysig iawn a bwriadwn ddatblygu syniadau hen a newydd ynghylch sut y mae gwneud hyn ar y cyd â’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion dros y flwyddyn nesaf.

 

cymraeg i'r teuluUn maes sydd yn tyfu’n gyflym ar y foment yw Cymraeg i’r Teulu. Mae’r sesiynau Cymraeg o’r Crud a ddatblygwyd ar y cyd â Twf ar gyfer rhieni newydd a’u babis yn boblogaidd iawn ac mae peilota’r cwrs Cymraeg i’r Teulu wedi dangos bod galw mawr am gwrs lefel Mynediad yn canolbwyntio ar ddysgu rhieni sut mae siarad Cymraeg â’u plant. Bydd y cwrs yn cael ei lansio’n swyddogol dros yr haf a bydd adnoddau helaeth ar gael i rieni, nid yn unig gyda’r cwrs, ond hefyd mewn man arbennig ar Y Bont.

Cynulleidfa bwysig arall a fydd, gobeithio, yn cynyddu yw’r rhai sy’n dysgu Cymraeg yn y Gweithle. Gyda dyfodiad y Mesur Iaith newydd a sefydlu’r Comisiynydd Iaith, disgwylir i nifer o weithleoedd ymateb i anghenion y Safonau newydd a ddaw yn lle’r Cynlluniau Iaith, drwy sicrhau bod hyfforddiant Cymraeg yn y Gweithle yn digwydd. Ry’n ni am sicrhau y bydd y gefnogaeth angenrheidiol ar gael i sefydliadau o bob math ac mae Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a CBAC yn y broses o ddatblygu gwefan o’r enw Cymraeg y Gweithle gyda’r nod o helpu cyflogwyr i adnabod sgiliau iaith Gymraeg eu staff a darpar staff.  Bydd aelodau o staff ac ymgeiswyr swyddi yn gallu ymgymryd â phrawf anffurfiol a fydd yn rhoi proffil o lefel eu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu i’r cyflogwr. Trwy ddefnyddio’r wybodaeth, bydd modd cynllunio’r gweithlu i ymateb i’r angen am sgiliau Cymraeg a chynllunio hyfforddiant yn drwyadl.  Mae’r wefan wedi ei chwblhau a bellach yn cael ei phrofi. Bydd yn cael ei threialu gan gwmnïau dros y misoedd nesaf cyn y bydd ar gael i bawb.  

llun plentynMae ansawdd y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yr un mor bwysig ag erioed. Mae fersiwn cyfunol o gwrs y Cymhwyster Cenedlaethol ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion (yn cyfuno dysgu mewn dosbarth ac ar-lein) yn cael ei beilota ar hyn o bryd a bydd y pwyslais ar hyfforddi tiwtoriaid yn parhau i’r dyfodol. 

Disgwyliwn dderbyn argymhellion ynghylch methodoleg dysgu Cymraeg i Oedolion yn y gwanwyn wrth i brosiect ymchwil mawr Prifysgol Caerdydd ar y pwnc ddod i’w derfyn a bydd canlyniadau’r ymchwil o ddiddordeb mawr inni i gyd.

Dyw’r maes Cymraeg i Oedolion ddim yn sefyll yn llonydd, felly, ac mae digon o gyffro o’n blaenau. Ond, ar ddiwedd y dydd, yr hyn sy’n bwysig yw bod dysgwyr yn derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel a chefnogaeth gynnes gan eu cyswllt nhw â’r Gymraeg, sef y tiwtor.

Blwyddyn newydd dda.

 

llinell